Cyfreithiwr/ Gweithredydd Cyfreithiol/ Cyfreithiwr dan hyfforddiant/ Paragyfreithiwr
Cyfreithiwr/ Gweithredydd Cyfreithiol/ Cyfreithiwr dan hyfforddiant/ Paragyfreithiwr
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Gyfreithiwr sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar (0-2 flynedd) i ymuno â'r tîm Cyfreithiol yn S4C. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau o safon uchel i weithio fel Gweithredydd...
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am Gyfreithiwr sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar (0-2 flynedd) i ymuno â'r tîm Cyfreithiol yn S4C. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau o safon uchel i weithio fel Gweithredydd Cyfreithiol, Cyfreithiwr dan hyfforddiant neu fel Paragyfreithiwr. Byddwch yn darparu cymorth a chyngor i dimau ar draws S4C ar amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol sydd yn effeithio ar bob agwedd o wasanaethau S4C.
Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog cryf, disgwylir i ddeilydd y swydd fod â'r parodrwydd a'r gallu i ddysgu ac ymgymryd â meysydd newydd, yn ogystal â'r gallu i gydweithio'n effeithiol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â adnoddau.dynol@s4c.cymru os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol heblaw yn achos cytundeb hyfforddiant (a fydd yn 2 flynedd o hyd)
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Llun 23 Mai 2022
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth