Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfieithydd

Cyfieithydd

Trosolwg:

Fel rhan o’r tîm cyfieithu, bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu a dehongli i staff a'r gwahanol adrannau yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Cyflog: £28,834 - £35,099 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 13/08/2024
Amser Cau: 23:59:00
Lleoliad: Gweithio hyblyg
Disgrifiad:

Fel rhan o’r tîm cyfieithu, bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu a dehongli i staff a'r gwahanol adrannau yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac weithiau o'r Gymraeg i'r Saesneg yn ogystal â chynorthwyo'r tîm Cyfathrebu i ddarparu cynnwys Cymraeg trwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod AaGIC yn cydymffurfio â gofynion cyfredol deddfwriaeth Cymraeg, a thrwy hynny helpu i sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i'n rhanddeiliaid ledled Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg AaGIC a'r ddeddfwriaeth Gymraeg gyffredinol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaeth i gefnogi gwella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth allweddol ym mhob busnes yr Awdurdod Iechyd.

Mae datblygiad personol yn bwysig iawn i ni yma yn AaGIC, ac felly, bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i astudio gradd meistr mewn cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth os dymunant.   

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Pennaeth Datblygu

Swyddog Sicrhau Ansawdd (0.8 FTE) (dros dro)

Rheolwr Codi Arian Corfforaethol