Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cyfieithydd
Cyfieithydd
Trosolwg:
Mae'r Uned Iaith Gymraeg yn arwain datblygiad a thwf darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ledled y Brifysgol. Rydym yn sicrhau hyn trwy weithio'n agos gyda Choleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, a chymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru ac mewn cydweithrediad â'n hysgolion academaidd a'n gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol.
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am unigolyn i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o Saesneg i’r Gymraeg/Cymraeg i’r Saesneg i Met Caerdydd yn ogystal â chymorth gweinyddol achlysurol i’r Uned Gymraeg.
Fe fyddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg rhagorol, yn ysgrifenedig, ac ar lafar.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Cyfieithu a phrawfddarllen amrediad eang o ddogfennau i safon uchel iawn i ddiwallu gofynion y Safonau Cymraeg a'n harddull ysgrifennu mewnol.
Cysylltu â chyfieithwyr allanol i gaffael cyfieithiadau yn ôl y galw. Sicrhau ansawdd digonol y gwasanaeth allanol, gan fonitro ar gyfer cysondeb a glynu at arddull mewnol.
Blaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn rheoli llwyth gwaith, ceisiadau niferus a dyddiadau cau heriol.
Darparu canllawiau cyson i bob aelod o staff ynghylch y ddyletswydd sydd ar y Brifysgol o dan y ddeddfwriaeth bresennol drwy lunio a diweddaru Canllawiau Cyfieithu.
Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Sgiliau Cymraeg a Saesneg rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Gwybodaeth ddigonol o Microsoft Office
Sylw rhagorol i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol.
Ymrwymiad i’r iaith Gymraeg
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Gradd anrhydedd neu brofiad cyfatebol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education UK a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig wrth ein gilydd, yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn (pro-rata os yn gweithio rhan amser)
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau ardderchog sy'n addas i'r teulu.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith
Mynediad teuluol am ddim i'n darparwr cymorth lles arbenigol ndependentHealth Assured.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description - Welsh
Job Description - English
Cyfieithydd
Cysylltiad Cyfieithydd