Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfieithydd - Prentis Lefel Uwch (Lefel 4) - Cyfieithydd

Cyfieithydd - Prentis Lefel Uwch (Lefel 4) - Cyfieithydd

Trosolwg:

Dewch i ymuno â’n tîm
Ydych chi'n 18 oed neu’n hŷn ac am gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Ydych chi’n chwilio am her newydd? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg?

Os felly, beth am fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn i fod yn Brentis Cyfieithydd?

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £24,404
Dyddiad Cau: 06/07/2025
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad: Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Disgrifiad:

Ynglŷn â’r swydd wag
Cyfeirnod y swydd wag:
1879

Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin

Nifer y swyddi gwag:
1

Math o gontract:
Prentisiaeth

Lleoliad:
Caerfyrddin

Gradd:
Prentis Lefel 4

Cyflog:
£24,404
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:
£12.65

Oriau contract:
37:00

Dewch i ymuno â’n tîm

Ydych chi'n 18 oed neu’n hŷn ac am gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Ydych chi’n chwilio am her newydd? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg?

Os felly, beth am fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn i fod yn Brentis Cyfieithydd?

Ydych chi'n…

...siaradwr Cymraeg hyderus sydd am ddechrau gyrfa ym maes cyfieithu?
Ydych chi'n drefnus, yn ddiwyd ac yn ddibynadwy, ac yn barod i ddysgu?
Os ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg a’ch dealltwriaeth o’r broses gyfieithu mewn lleoliad proffesiynol ac ennill cymhwyster Prentisiaeth mewn Ymarfer Cyfieithu ar yr un pryd, efallai mai dyma’r rôl i chi.

Beth sy'n bwysig i chi?

Pobl – rydych chi'n cyfathrebu’n dda â phobl ac wrth eich bodd yn gweithio fel rhan o dîm.
Dealltwriaeth gref o’r Gymraeg a’r Saesneg – mae gennych chi sgiliau Cymraeg a Saesneg cadarn ac yn rhoi sylw i fanylion.
Parodrwydd i ddysgu – rydych chi bob amser yn barod i ofyn am gymorth ac yn manteisio ar adborth adeiladol i wella.
Sgiliau trefnu a rheoli amser – rydych chi’n gallu gweithio’n annibynnol a chadw at derfynau amser a blaenoriaethu tasgau yn unol â hynny.
Sgiliau TG – rydych chi’n gallu defnyddio pecynnau Microsoft yn hyderus i gyflawni eich gwaith yn effeithiol.

 
Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cymhwyster Prentisiaeth mewn Ymarfer Cyfieithu gyda darparwr cefnogol (bydd yn rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais)
Contract 24 mis yn y tîm cyfieithu
Rhaglen sefydlu lawn a chefnogaeth barhaus gan eich rheolwr llinell a'r tîm
Cyfraddau tâl cystadleuol (y Cyflog Byw Cenedlaethol)
Yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r rôl – bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb a chysgodi
Ar ddiwedd y contract cyfnod penodol, efallai y bydd cyfleoedd i gael eich penodi i swydd, yn dibynnu ar argaeledd, addasrwydd a pherfformiad unigol
 
Fel rhan o’r broses recriwtio, bydd angen i chi:

Dod i ddiwrnod recriwtio wyneb yn wyneb ddydd Mercher 23 Gorffennaf
Os byddwch chi’n llwyddiannus yn ystod y diwrnod recriwtio, cewch wahoddiad i gyfweliad gyda’r tîm ar 7 neu 8 Awst 2025
Mae’n hanfodol eich bod ar gael ar gyfer y dyddiadau hyn gan na fydd dyddiadau eraill ar gael.

Cysylltwch:

Helen Davies-Eynon – HEDavies-Eynon@sirgar.gov.uk / 01267 246127

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
23 Gorffennaf 2025

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 – bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad cau:
06/07/2025, 23:55

Y buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:

Cyflog cystadleuol
Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
 
Gwybodaeth ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu.
Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd

Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon.
Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner:
https://www.gov.uk/prove-right-to-work

Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais
Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein.

Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein:
swyddi@sirgar.gov.uk
01267 234567 – gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Adnoddau

Gohebydd: Heno / Prynhawn Da

Mentor Datblygiad Proffesiynol-Addysgu Dwyieithog (Cyfnod Mamolaeth)