Cyfieithydd Cymraeg

Cyfieithydd Cymraeg

Trosolwg:

Prif bwrpas y rôl yw darparu gwasanaeth cyfieithu effeithlon ac o safon uchel i Undeb y Myfyrwyr. Mae’r rôl yn cyfrannu at ddatblygiad ymgyrchoedd marchnata Cymraeg, ac yn helpu hyrwyddo diwylliant a defnydd yr iaith Gymraeg i’n myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Cyflog: £26,159
Dyddiad Cau: 14/05/2025 (0 diwrnod)
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, Caerdydd, Cymru, CF10 3QN
Disgrifiad:

Fel sefydliad amrywiol, gall pob person wneud gwahaniaeth mawr. Ein pobl yw calon ein sefydliad ac rydym am i chi ymuno â ni!

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd (UMC) yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae’r Undeb yma i hybu myfyrwyr i lwyddo ac rydym yn gefn iddynt pan fod angen cymorth, gan gynnig amgylchedd cynhwysol ble gall myfyrwyr fod eu hunain. Rydym yn gyson yn y tri undeb uchaf am foddhad myfyrwyr yn y DU.

Yn pontio campws Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, mae adeiladau’r Undeb yn gweithredu 24 awr y dydd ac yn cynnwys caffis, siopau, bariau, lleoliadau cerddoriaeth, asiant dai a mannau astudio er mwyn i fyfyrwyr wneud y mwyaf o'u hamser yn y brifysgol. Mae'r holl elw o'n gweithgarwch masnachol yn mynd at wella’r gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael i'n myfyrwyr.

Mae’r Undeb yn cael ei arwain gan dîm o swyddogion sy'n fyfyrwyr sy'n cynrychioli diddordebau myfyrwyr ac yn siapio'r gweithgareddau a'r gwasanaethau a ddarperir gennym ni.

Ynghylch y rôl

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd (UMC) yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog sy’n ehangu ei ddarpariaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Yn 2024 fe wnaethom dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac yn 2025 fe wnaethom ennill gwobr Iaith Gymraeg y ‘Cardiff Life Awards’, sy’n cydnabod sefydliadau sy’n arddangos arloesedd ynghylch y Gymraeg.

Mae cyfathrebu gyda myfyrwyr wrth galon yr hyn a wnawn, ac rydym o hyd yn edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hyn yn effeithiol. Os ydych yn gyfieithydd Cymraeg creadigol gyda dawn am farchnata a chyfathrebu, rydym am glywed gennych.

Disgrifiad swydd

Prif bwrpas y rôl yw darparu gwasanaeth cyfieithu effeithlon ac o safon uchel i Undeb y Myfyrwyr. Mae’r rôl yn cyfrannu at ddatblygiad ymgyrchoedd marchnata Cymraeg, ac yn helpu hyrwyddo diwylliant a defnydd yr iaith Gymraeg i’n myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn y tîm marchnata a chyfathrebu er mwyn sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn cadw at ei Bolisi Iaith Gymraeg a chyfrifoldebau. Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg ac yn cefnogi gwaith IL y Gymraeg ac UMCC (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd).

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Pecyn Swydd

Job Pack

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Ymddiriedolwyr

Actorion / Hwyluswyr Creadigol

Uwch Swyddog Cadwraeth