Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfieithydd Cymraeg

Cyfieithydd Cymraeg

Trosolwg:

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg i alluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i weithredu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, yn unol â deddfwriaeth ynghylch y Gymraeg a’r Cynllun Iaith Gymraeg. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cyflog: £28,834 - £35,099
Dyddiad Cau: 12/12/2023
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: DHCW Recruitment Team
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

MAE'R SWYDD HON AR GYFER CYFNOD PENODOL / YN SECONDIAD AR GYFER 30 MIS.

OS OES GENNYCH DDIDDORDEB MEWN YMGEISIO AR GYFER Y SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATÂD GAN EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI WNEUD CAIS AM Y SWYDD HON 

Darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac yn achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gyfer y Rhwydwaith Cyflawni Newid Digidol (DCDN) yn y tîm Newid Busnes yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru 
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a Chynllun Iaith Gymraeg DHCW.  

Cefnogi a hyrwyddo diwylliant Cymraeg cadarnhaol ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 
 
Prif ddyletswyddau'r swydd
 

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg i alluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i weithredu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, yn unol â deddfwriaeth ynghylch y Gymraeg a’r Cynllun Iaith Gymraeg. 

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg cynhwysfawr i alluogi y Rhwydwaith Cyflawni Newid Digidol (DCDN) i gydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Iechyd a Gofal Digidol Cymru, polisïau a gweithdrefnau iaith Gymraeg ac yn dirprwyo ar ran y Rheolwr Cyfieithu yn ei absenoldeb ar bob agwedd ar ddarparu gwasanaethau yn ôl yr angen. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 
Gweithio i'n sefydliad
 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Job Description

Trosolwg Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Cyfathrebu

Dirprwy Brif Weithredwr - Profiadau Pobl a Diwylliant

Gweithiwr Cenhadol Cymunedol