Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Trosolwg:

Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: adnodd
Cyflog: Cyflog cychwynnol o £71,500
Dyddiad Cau: 27/09/2024
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Hannah Welfoot
Ffôn: 07458143279
Lleoliad: Gweithio hybrid neu o bell
Disgrifiad:

Mae Adnodd yn gwmni newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

Mae Yolk Recruitment yn cynorthwyo Adnodd i recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Fel aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli Adnodd, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn arwain y sefydliad ac yn meithrin diwylliant sy’n grymuso, yn dysgu ac yn ddeinamig. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr, cyflenwyr, cyllidwyr, rhanddeiliaid a Bwrdd Adnodd i gynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol, uniondeb a chydymffurfiaeth. Dros amser, byddwch yn recriwtio ac yn rheoli tîm bach o staff i sicrhau bod gwasanaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn effeithlon.

Y Swydd

Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod holl swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Fel uwch reolwr profiadol, byddwch chi’n arwain ar bob agwedd o weithrediadau corfforaethol Adnodd i sicrhau bod systemau a chontractau effeithiol ar waith ar gyfer ein swyddogaethau cyllid, llywodraethu corfforaethol, masnachol, adnoddau dynol, TG, cydymffurfiaeth a gweinyddol, gan gynnwys:

Rheoli Ariannol - 

•             Rheoli a chynllunio ariannol, gan sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu cyflawni a drwy weithio’n agos ag archwilwyr allanol.

•             Darparu arweinyddiaeth strategol a gosod y safonau ar gyfer rheolaeth ariannol gadarn ar draws Adnodd, gan sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cael cyngor priodol.

Adnoddau Dynol - 

•             Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau AD i hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol ac ymgysylltiad da â gweithwyr.

•             Sicrhau bod swyddogaethau AD yn cael eu cyflawni’n effeithiol, gan gynnwys recriwtio, rheoli perfformiad, hyfforddiant a chysylltiad rhwng gweithwyr, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau cyflogaeth a chytundebau fframwaith Llywodraeth Cymru.  

Darpariaeth ac Offer TG a Seiberddiogelwch - 

Sicrhau bod systemau, seilwaith ac offer TG yn cael eu rheoli’n effeithiol i gefnogi effeithlonrwydd a diogelwch gweithredol.
•             Cydweithio â gweithwyr TG proffesiynol i nodi a gweithredu datrysiadau technoleg sy'n cyd-fynd ag anghenion y sefydliad ac sy'n darparu gwerth am arian o fewn cyfyngiadau cyllidebol.

Caffael a Rheoli Contractau - 

•             Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau caffael i sicrhau’r gwerth gorau am arian a lliniaru risgiau.

•             Goruchwylio’r broses gaffael, gan gynnwys tendro, dewis cyflenwyr a rheoli contractau, a sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â pholisïau a rheoliadau perthnasol.

Llywodraethu - 

•             Cryfhau a chynnal fframweithiau, rheolaethau a gweithdrefnau llywodraethu i sicrhau cydymffurfiad cadarn â threfniadau adrodd, gofynion cyfreithiol a gofynion statudol.

•             Bod yn rheolwr llinell i’r Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu i gefnogi’r gwaith o gydlynu a gweinyddu’r Bwrdd yn effeithiol, a chyflawni a gwella swyddogaethau a phrosesau llywodraethu a chorfforaethol.

Gofynion

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn meddu ar y profiad, y cymwysterau a’r nodweddion canlynol:

•             Profiad amlwg o drefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol a chorfforaethol, yn ddelfrydol mewn swydd debyg. 

•             Profiad amlwg o arwain ar lefel uwch, gan gynnwys sicrhau diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chefnogol, a gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar lefel y Bwrdd ac ar lefel weithredol. 

•             Profiad amlwg o gynllunio a rheoli ariannol, cyllidebu ac adrodd, a hynny’n strategol ac yn weithredol. Mae cymhwyster ariannol proffesiynol perthnasol yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon.

•             Profiad amlwg o lunio, darparu ac addasu cynlluniau busnes yn llwyddiannus i gyflawni amcanion strategol, cydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, a goresgyn heriau yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid neu dwf. 

•             Sgiliau arwain rhagorol, sy’n galluogi sefydliadau i greu a gweithredu systemau effeithiol ar gyfer cyflawni a chydymffurfio.

•             Gwybodaeth am egwyddorion ac arferion llywodraethu corfforaethol, a threfniadau adrodd a chydymffurfio rheoleiddiol a statudol.

•             Meddwl yn strategol ac yn ddadansoddol gyda’r gallu i ddarparu gwasanaethau corfforaethol yn unol â nodau’r sefydliad.

•             Arddull arwain gydweithredol a chynhwysol, a gallu gweithio’n dda mewn tîm.

•             Dull rhagweithiol o fynd i'r afael â heriau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.

•             Ymrwymiad i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.

Rhuglder Iaith

•             Mae’n hanfodol bod gennych o leiaf lefel ganolradd o Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

•             Cymraeg yw iaith naturiol y cwmni o ddydd i ddydd ac mae Adnodd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r holl staff i loywi eu sgiliau a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

•             Wrth drafod a chyflwyno materion technegol a gweithredol, defnyddir y Gymraeg a Saesneg yn hyblyg, gyda chydweithwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog i feithrin eu sgiliau Cymraeg dros amser.

Tâl

Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol llwyddiannus yn cael:

•             Cyflog cychwynnol o £71,500

•             Gweithio’n hyblyg

•             Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi

•             Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

• Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

Yolk Recruitment yw partner recriwtio neilltuedig Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk yn dilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd ei hun.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)

Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (sy’n siarad Cymraeg)

Cyfieithydd Iaith Gymraeg