Cyfarwyddwr Addysg

Cyfarwyddwr Addysg

Trosolwg:

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Eglwys yng Nghymru
Cyflog: £68,149 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 09/05/2025 (17 diwrnod)
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Grahame Davies
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Addysg
Cyflog: £68,149
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)

Diben y Swydd

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddarparwr addysgol sylweddol sy'n gwasanaethu 27,000 o ddisgyblion mewn 144 o ysgolion (gan gynnwys 5 ysgol uwchradd) mewn ystod eang o gymunedau gwledig a threfol, mawr a bach, Cymraeg a Saesneg eu hiaith

Mae’r Cyfarwyddwr Addysg yn gyfrifol am arwain ar berthnasoedd a sgyrsiau am ddatblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector ac am sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddatblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysgol Cymru.

Mae’n gweithio'n agos gydag Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, gyda Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaethau ac arweinwyr addysgiadol eraill.

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg yn aelod o'r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol, a bydd yn cyfrannu at ddarparu cyngor polisi a datblygu gwasanaethau parhaus ar draws ein holl ysgolion.

Cais

I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.ukSicrhewch fod yr holl ddogfennau a anfonir atom ar ffurf PDF.

Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.

Dyddiad cau 09 Mai 2025 am 10.00 am

Dyddiadau Cyfweliad 02 Mehefin 2025 i'w gadarnhau yn bersonol yng NghaerdyddRhagor o wybodaeth

Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Grahame Davies, HR@cinw.org.uk

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cymunedau Dwyieithog

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da

Cynghorydd Digidol