Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd addysg profiadol gyda dealltwriaeth drylwyr o bolisi addysgol yng Nghymru, gyda chrebwyll gwleidyddol cryf, gyda sgiliau i rwydweithio ac i adeiladu consensws a chydag ymrwymiad i gynnal a datblygu ethos, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth unigryw ein 144 o ysgolion cynradd ac uwchradd yr Eglwys yng Nghymru. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Yr Eglwys yng Nghymru
Cyflog: £60,233 - £68,149 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 24/01/2025
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid
Disgrifiad:

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Gradd H - £60,233 - £68,149 y flwyddyn

Lleoliad – 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid

Parhaol – Llawn amser (34.75 awr yr wythnos). 

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan yn nyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd addysg profiadol gyda dealltwriaeth drylwyr o bolisi addysgol yng Nghymru, gyda chrebwyll gwleidyddol cryf, gyda sgiliau i rwydweithio ac i adeiladu consensws a chydag ymrwymiad i gynnal a datblygu ethos, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth unigryw ein 144 o ysgolion cynradd ac uwchradd yr Eglwys yng Nghymru. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol ynghyd â chyllid yr adran, a bydd yn arwain ar berthnasoedd a pholisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector gan sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn datblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysg Cymru. 

Mae Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn rhan o’r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac yn gweithio’n agos gyda Mainc yr Esgobion, gyda rhwydwaith o Swyddogion Addysg Esgobaethol a chydag uwch arweinwyr ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at gyngor polisi a datblygiad gwasanaeth parhaus ar draws ein holl ysgolion, sydd wrth galon cymunedau ledled y wlad.

Mae'r rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad, gan gynnwys rhywfaint o deithio yng Nghymru a thu hwnt, ac aros dros nos yn achlysurol. 

O dan Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gofyniad galwedigaethol i’r swydd hon i fod yn Gristion gweithredol.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 am 10:00am

Cysylltwch â: HR@cinw.org.uk / 0292034 8200

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Aelod allanol o Bwyllgor Archwilo a Risg y Coleg

Swyddog Gwarchod Data a Llywodraethu

Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn