Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Trosolwg:

Mae’r S4C yn chwilio am Gydlynydd Trefnu Cyfryngau i ymuno a’r Tîm Cyhoeddi fydd yn gyfrifol am amserlenni ymgyrchoedd hyrwyddo ar-sgrin a chynnwys aml-blatfform S4C.

Byddwch yn amserlennu a darlledu asedau fel tréls, negeseuon hyrwyddo ac eitemau graffeg yn unol â’r flaenoriaeth marchnata a chyfathrebu S4C i ddenu diddordeb y gynulleidfa a chodi ymwybyddiaeth am ein cynnwys.

Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau cydlynu ar draws yr adran gyhoeddi, gan gydweithio gyda’r adran gyfleu a gwasanaethau mynediad lle bo’r angen. 

Mae’r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: S4C
Cyflog: £30,000-£32,000 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 31/03/2025
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Fel rheol, bydd disgwyl i chi weithio o Sgwâr Canolog am 3 diwrnod yr wythnos. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i’w gilydd.
Disgrifiad:

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Fel rheol, bydd disgwyl i chi weithio o Sgwâr Canolog am 3 diwrnod yr wythnos. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i’w gilydd.

Cyflog:                    £30,000-£32,000 y flwyddyn

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.  

Cytundeb:               Parhaol

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 31 Mawrth 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Manylion Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da

Rheolwr Cyfathrebu

Actorion / Hwyluswyr Creadigol