Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Sefydlu a Symud y De Ddwyrain (Cyfnod Mamolaeth)

Cydlynydd Sefydlu a Symud y De Ddwyrain (Cyfnod Mamolaeth)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM22 – MM25 £29,610 - £32,712
Dyddiad Cau: 27/06/2025
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Ann Angell, Rheolwr Talaith y De Ddwyrain
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Cydlynydd Sefydlu a Symud y De Ddwyrain (Cyfnod Mamolaeth 1.9.2025 – Mehefin 2026)

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Datblygu darpariaethau:

Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd  Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy:

•    Cyd weithio gyda’r Rheolwr Talaith i adnabod cyfleoedd i ddatblygu cylchoedd meithrin o’r newydd yn unol a chynlluniau sirol megis Cynlluniau Y Gymraeg mewn Addysg a’r asesiadau dichonolrwydd plant Gan gydweithio  a chydlynu gyda’r Cyngor Sir
•    Arwain ar ehangu darpariaethau presennol er mwyn cwrdd a chynlluniau cenedlaethol a sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin 
•    Ehangu darpariaethau  trwy gynlluniau cyfalaf  Y Gymraeg a Gofal Plant y llywodraeth  
•    Cydweithio gyda’r gymuned i adnabod lleoliadau addas gall gydymffurfio a Safonnau Gofynnol a Rheoliadau AGC ac arwain ar drefniadau gyda phwyllgorau adeiladau cymunedol i sefydlu Cylch yno.
•    Arwain, adnabod a recriwtio pwyllgorau llawn o’r newydd drwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a’r gymuned ehangach
•    Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli
•    Cefnogi’r Pwyllgor Rheoli drwy’r broses recriwtio a phenodi staff
•    Cydweithio gyda’r cylchoedd ac athrawon Ymgynghorol Dechrau’n Deg ac Addysg wrth i sicrhau  bod unrhyw gylchoedd newydd wrth eu paratoi at gynnig y gwasanaethau
•    Cydweithio gyda staff a phwyllgorau i brynu adnoddau i’r cylch.
•    Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd ( neu cydweithio a chylchoedd     Ti a Fi presennol) er mwyn creu llwybr dilyniant i addysg Gymraeg
•    Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
•    Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol ac Academi 
•    Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin 

Cefnogaeth Fusnes:
Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi trwy:

Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol newydd ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin

•    Materion ariannol e.e. Creu rhagolygon llif arian ar gyfer pob Cylch Meithrin SaS fydd yn cynnwys rhifau torri’n hafal, lefelau staffio. Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian,  cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd. 
•    Cynlluniau busnes e.e cefnogi pwyllgorau i lunio cynllun busnes er mwyn creu sylfaen gadarn wrth ddatblygu darpariaeth o’r newydd.
•    Materion Elusennol e.e Cydweithio a staff ganolog Mudiad Meithrin i gofrestru pob Cylch Meithrin newydd fel Sefydliad Cyfansoddiadol Elusennol ynghyd ag arweiniad ar ddarparu adroddiadau i’r Comisiwn Elusennau.
•    Materion rheoli AGC e.e  Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru gydag AGC 
•    Rheoli Perfformiad e.e  cefnogi pwyllgorau i osod strwythurau rheoli perfformiad cadarn mewn lle ar gyfer staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch. Bod yn bwynt cyswllt i Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.
•    Marchnata a Hyrwyddo:Cefnogi Pwyllgorau i hysbysebu swyddi gwag, Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd

Gweithio mewn partneriaeth:
•    Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun
•    Cydweithio gyda phenaethiaid  ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach
•    Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, 
•    Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl e.e. rhieni/gwarchodwyr
•    Cydweithio a Phrif Swyddog Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin
•    Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
•    Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd  mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen 
•    Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .

Gwaith Cyffredinol:
•    Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol 
•    Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
•    Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
•    Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
•    Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn  
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

Polisi Diogelu Plant

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cyfrifydd Cymwysedig (ACA, ACCA, CTA)

Uwch Swyddog Gwybodaeth a Dadansoddi

Gwyliwr Nos