Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Prosiect Artistiaid Preswyl

Cydlynydd Prosiect Artistiaid Preswyl

Trosolwg:

Swydd rhan amser yn gweithio o adref ac Ynys Enlli am gyfnod o 6 mis. 

Ariennir y rôl hon gan Gyngor Gwynedd (Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU) ac Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich CV a llythyr cyflwyno at swyddienlli@gmail.com erbyn 12.00 hanner dydd ar 22 Tachwedd 2023. 

 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
Cyflog: £24,000 pro rata
Dyddiad Cau: 22/11/2023
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Caroline Jones
Ffôn: 07904265604
Lleoliad: Gweithio o adref ac Ynys Enlli, Y Rhiw, Gwynedd, Cymru, LL53 8DE
Disgrifiad:

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn y broses o ddatblygu’n barhaus ar hyn o bryd ac yn gweithredu i sicrhau dyfodol cadarnhaol a disglair i’r ynys a’i chymuned. O ganlyniad i waith estynedig gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ychwanegol wedi’i ariannu gan Gyngor Gwynedd (C.Ff.G.),  mae YYE bellach yn bwriadu penodi Cydlynydd (rhan amser) i ddatblygu prosiectau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth yr Ynys ac i ymgysylltu a rhwydweithio efo’r cymunedau lleol, cynulleidfaoedd ar-lein a phartneriaid amrywiol. Hefyd, i ddatblygu mwy o waith prosiect ac ymgysylltu, ceisiadau grant a phrosiectau. Mae crynodeb byr sy’n crynhoi’r gwaith hyd yn hyn ar gael mewn atodiad i’r ddogfen hon, ac mae mwy o wybodaeth ar gael os wnewch chi gysylltu â ni.

Bydd deilydd y rôl yma yn gweithio’n agos efo’r Ymddiriedolwyr, y Pwyllgor Celfyddydau, Rheolwr Datblygu, staff a chontractwyr eraill, Cyngor Gwynedd, mudiadau celfyddydol a mentrau cymdeithasol, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol a chyrff eraill yng Nghymru, a chymuned yr Ynys,  er mwyn cyflawni’r gwaith yma mewn modd cydweithredol.

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli mewn cyfnod cyffrous yn ei hanes wrth i’r mudiad adeiladu ar weithgaredd y blynyddoedd diwethaf a datblygu dyfodol cynaliadwy i bawb ar Enlli.  Os ydych chi a diddordeb mewn bod yn rhan o ddyfodol Enlli cysylltwch â ni i drafod y swydd mewn mwy o fanylder.

I ddarllen y swydd ddisgrifiad ac am wybodaeth am sut i geisio, ewch i www.bardsey.org/jobs 

Dyddiad cau: 12.00 hanner dydd, Tachwedd 22, 2023.

​Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu drwy e-bostio: swyddienlli@gmail.com 

​Ariennir y rôl hon gan Gyngor Gwynedd (Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU) ac Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Hwylusydd y Gymraeg - (x 3 Swydd)

Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu

Ysgoloriaeth PhD: Addysg Gorfforol