Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Trosolwg:
Mae Antur Stiniog chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig fydd yn gallu casglu a chyfleu ystod eang o storiau ar draws ein menter a busnes mewn ffyrdd diddorol a mentrus a thrwy hynny chwarae rhan adeiladol wrth ddatblygu, ac uchafu ein gweldigaeth, a gweithgareddau cymunedol a masnachol.
Disgrifiad:
SWYDD-DDISGRIFIAD
Mae Antur Stiniog chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig fydd yn gallu casglu a chyfleu ystod eang o storiau ar draws ein menter a busnes mewn ffyrdd diddorol a mentrus a thrwy hynny chwarae rhan adeiladol wrth ddatblygu, ac uchafu ein gweldigaeth, a gweithgareddau cymunedol a masnachol.
Bydd ‘Cydlynydd Marchnata a Cyfarthrebu Antur Stiniog’ yn gyfrifol am arwain a chefnogi’r staff a’r bwrdd rheoli ar faterion cyfathrebu, rhannu newyddion a datblygu’r fenter yn ddwyieithog o fewn y gymuned a thu-hwnt yn ogystal a chynnal ac amlygu ‘llais’ a phrif gweitgarwch Antur Stiniog.
Bydd sawl cyfrwng angen ei ddefnyddio, gan gynnwys arlein drwy ein gwefan, blog, newyddlen, cyfryngau cymdeithasol a chymunedol, fideos a phodlediadau, drwy’r cyfryngau traddodiadol megis papurau lleol, papurau bro a newyddleni, yn ogystal a drwy ddigwyddiadau ar draws Cymru a thu hwnt. Bydd hyn yn ganolog i lwyddiant Antur Stiniog wrth fynd ati i chwarae rhan blaenllaw wrth datblygu’r fenter, twristiaeth cynalaiadwy, chymunedol ac adfywiol.
Fe fydd y swydd yn datblygu fel bod y cydlynydd marchnata a cyfarthrebu yn gyfrifol am sicrhau cysondeb marchnata ar draws y cwmni gan weithio yn agos efo’r rheolwyr a’r bwrdd rheoli.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- Gweithio efo staff a bwrdd rheoli Antur Stiniog i adolygu, datblygu, a gweithredu strategaeth cyfathrebu a marchnata.
- Cynnal ac ehangu ar frand a phroffil Antur Stiniog fel menter a busnes cymunedol arloesol.
- Creu dealltwriaeth o weledigaeth a swyddogaeth Antur Stiniog sy’n arloesi wrth datblygu twristiaeth cynaliadwy a chymunedol o fewn Cymru, a thu hwnt.
- Datblygu templedau neu adnoddau cyfathrebu i’w defnyddio gan aelodau o Antur Stiniog (partneriaid, staff, gwirfoddolwyr).
- Arwain ar ymateb ar rhan Antur Stiniog i ymgynghoriadau a stratagaethau ayb, trwy weithio gyda’r Rheolwyr a staff, tîm a bwrdd rheoli fel bod angen.
- Datblygu a chynnal presenoldeb a dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Cynnal a datblygu gwefan Antur Stiniog cyf.
- Creu fideos a phodlediadau gan gynnwys ehangu podlediad a sianeli Youtube ac ehangu'r gynulleidfa.
- Denu sylw cyfryngau lleol a chenedlaethol at weledigaeth a gwaith Antur Stiniog.
- Chwilio am gyfleoedd newydd a gwahanol i hyrwyddo gwaith Antur Stiniog a datblygu syniadau creadigol i rhannu’r weldigaeth a gwaith yma.
- Sicrhau fod neges ac Antur Stiniog yn mynd tu hwnt i Bro Ffestiniog drwy ymgysylltu a phartnariaethau ag eraill i rhannu’r weldigaeth.
- Arwain ar drefnu un digwyddiad blynyddol i’r gymuned er mwyn adeiladu ar berthynas y Menter a’r cymuned a pherchnogaeth y gymuned yn y menter.
- Adeiladu a cynnal perthynas iach a gweithiol a busnesau eraill Bro Ffestiniog.
- Cyfrannu’n adeiladol i ddiwylliant o rannu profiadau a dysgu a chyfrannu at gwerthuso gwaith Antur Stiniog.
- Adrodd ar ganlyniadau gwaith cyfathrebu Antur Stiniog i’r Bwrdd Rheoli a’r Rheolwyr.
- Gweithio efo cwmniau marchnata arbenigol allannol megis ar sicrhau cynnwys priodol i farchnata ac uchafu gweithgaredd uniongyrchol ee. llwybrau beicio, neu eidod cymunedol.
- Ymdrin ac unrhyw tasgau gweinyddol perthnasol.
Mae disgwyl i pob unigolyn fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Hysbyseb
Ffurflen gais
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Cysylltiad Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu