Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cydlynydd Gweithredol e-sgol
Cydlynydd Gweithredol e-sgol
Trosolwg:
Bydd deiliad y swydd hon yn helpu i gydlynu’r prosiect a chynnig cymorth i bennaeth strategol ac arweinwyr e-sgol, trwy fod yn gyswllt cyson gydag Adnoddau Dynol a Chyllid, marchnata’r prosiect a threfnu Carlam Cymru a’r gynhadledd flynyddol, ymysg pethau eraill.
Disgrifiad:
Cydlynydd Gweithredol e-sgol
37 awr / Parhaol
£25,419 - £27,514
*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.
Ynglŷn â'r rôl
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i’n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi’r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu ac adolygu gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd hon yn helpu i gydlynu’r prosiect a chynnig cymorth i bennaeth strategol ac arweinwyr e-sgol, trwy fod yn gyswllt cyson gydag Adnoddau Dynol a Chyllid, marchnata’r prosiect a threfnu Carlam Cymru a’r gynhadledd flynyddol, ymysg pethau eraill. Dewch i ymuno a thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn datblygu’r prosiect yn genedlaethol.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan