Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru
Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru
Trosolwg:
Fel Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru byddwch yn rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant yng Nghymru ac yn chwilio am yr ymgeisydd iawn i ymuno â’n tîm, gan rannu ein huchelgais i wneud byd sy’n gweithio’n well i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Disgrifiad:
Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru
Cyflog: M3 £30,550 pro-rata
Lleoliad: Cymru
Oriau: 28 awr yr wythnos
Cytundeb: 3 blynedd, cyfnod penodol
Mae Tîm Newid Cymdeithasol RNIB Cymru yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau a wynebir gan bobl ddall ac â golwg rhannol mewn bywyd bob dydd.
Fel Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru byddwch yn rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant yng Nghymru ac yn chwilio am yr ymgeisydd iawn i ymuno â’n tîm, gan rannu ein huchelgais i wneud byd sy’n gweithio’n well i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Mae hon yn swydd llawn amser, am gyfnod penodol o 3 blynedd, yn gweithio o gartref gyda’r disgwyliad i fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd pan fo angen.
Ynglŷn â’r Swydd
Byddwch yn rheoli ddarpariaeth weithredol o dydd i ddydd ar gyfer Prosiect “Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru”You will managing the day to day operational delivery of the “See Cymru Differently – Hiraeth” Project, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ein nod yw gwneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag ardaloedd gwledig eraill y wlad, yn hygyrch i ymwelwyr a thrigolion dall ac â golwg rhannol er mwyn sicrhau eu bod yn wirioneddol gynhwysol.
Rydym hefyd am sicrhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn ymwneud â galwedigaethau traddodiadol fel ffermio yn ymwybodol o bwysigrwydd gofalu am eu golwg a sut i gael mynediad at gefnogaeth pe bai angen.
Mae Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru yn cynrychioli partneriaeth sylweddol o sefydliadau sy’n dod at ei gilydd i ffurfio un traws-sefydliadol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Bydd gennych brofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office: Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac Outlook a'r gallu i ddysgu a defnyddio meddalwedd newydd lle bo angen.
Bydd gennych brofiad o arferion, prosesau a gweithdrefnau busnes gan gynnwys cefnogi cynhyrchu adnoddau, paratoi adroddiadau a phapurau briffio.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn gallu addasu arddull i weddu i'r gynulleidfa.
Bydd gennych brofiad o drefnu eich amser eich hun yn effeithiol trwy greu amserlenni gwaith effeithlon, blaenoriaethu llwyth gwaith a bodloni terfynau amser.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
Mae RNIB yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn lle gwych i weithio gyda diwylliant cadarnhaol, blaengar. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau’r flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy’n codi gyda gwasanaeth, buddion ar gyfer teuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a phlatfform gwobrau gyda gostyngiadau i weithwyr ar gyfer dros 800 o fanwerthwyr.
Sut i Ymgeisio
Os hoffech ymgeisio am y cyfle hwn, gwnewch gais ar-lein, gan uwchlwytho eich CV a’ch datganiad ategol, gan ddweud wrthym sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn adran 1 o’r fanyleb person.
Dyddiad cau: Hanner Nos 23 Chwefror
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru
Cysylltiad Cydlynydd Golwg Gwahanol ar Gymru