Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Cynadleddau

Cydlynydd Cynadleddau

Trosolwg:

Mae gan yr adran Gwasanaethau Campws ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyfle cyffrous am swydd lawn amser barhaol yn gweithio yn y tîm Cynadledda.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Bangor
Cyflog: £25,742 - £28,759 y flwyddyn (Graddfa 7)
Dyddiad Cau: 22/11/2023
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2DG
Disgrifiad:

PRIFYSGOL BANGOR

CEFNOGI CWSMERIAID

Cydlynydd Cynadleddau  

(Cyf: BU03376)

Cyflog: £25,742 - £28,759 y flwyddyn (Graddfa 7)   

Mae gan yr adran Gwasanaethau Campws ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyfle cyffrous am swydd lawn amser barhaol yn gweithio yn y tîm Cynadledda.

Gan adrodd i'r Rheolwr Gwerthiant Cynadleddau bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynllunio, trefnu a hyrwyddo amrywiaeth o gynadleddau a digwyddiadau.

Dylai ymgeiswyr feddu ar 2 Lefel Uwch Gyfrannol (AS) neu 1 Lefel A neu NVQ lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol neu feddu ar brofiad cyfatebol mewn Busnes, Marchnata, Arlwyo, Lletygarwch er enghraifft, neu faes tebyg.

Mae gallu siarad Cymraeg yn hyderus i gyflawni rhai tasgau yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, e.e. siarad â staff a myfyrwyr, ateb galwadau ffôn, delio ag ymholiadau brys yn Gymraeg ynghyd â gallu gweithio gyda’r nosau ac ar benwythnosau pan fo angen.

Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail rhan amser neu rannu swydd hyd at yr oriau llawn amser penodedig.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau ceisiadau: 22 Tachwedd 2023

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd a Chydlynydd Sefydlu a Symud (SAS) Sir Gâr (Cyfnod Mamolaeth)

Swyddog Cefnogi Gwirfoddoli

Gweinyddwr – Prosiect Perthyn