Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Trosolwg:
Mae’r swydd yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol a threfnus, yn gallu adnabod darn o gynnwys fydd yn llwyddo a gyda’r ddealltwriaeth dechnegol i gyhoeddi cynnwys arlein.
Disgrifiad:
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Cyflog: i’w drafod
Cytundeb: llawn amser
Oriau Gwaith: 5 diwrnod yr wythnos yn cynnwys gweithio’n rheolaidd ar benwythnosau. Bydd disgwyl i weithio ar leoliad yn achlysurol.
Lleoliad: Caernarfon yn ddelfrydol ond gellir ystyried Caerdydd
Dyddiad cau: 13/01/2025
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm Sgorio.
Mae’r swydd yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol a threfnus, yn gallu adnabod darn o gynnwys fydd yn llwyddo a gyda’r ddealltwriaeth dechnegol i gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Cyhoeddi darllediadau byw ar blatfformau arlein, a chlipio a golygu deunydd o ddarllediadau byw drwy systemau’n y cwmwl
- Addasu ac ailfersiynu cynnwys i’w deilwra i blatfformau penodol
- Is-deitlo eitemau a chyfweliadau e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Hyrwyddo gemau byw e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop
- Diweddaru gwefan Sgorio gyda gwybodaeth gyfredol
Hanfodol
- Dealltwraeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu
- Gwybodaeth ragorol o’r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel TikTok, Instagram, X ac ati
- Gallu defnyddio meddalwedd fel Adobe Photoshop a Premiere Pro neu debyg i greu cynnwys atyniadol
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd
- Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifiwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein
Manteisiol
- Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed
- Profiad o ddylunio graffeg trawiadol
- Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka
- Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a thyfu brand amlwg Cymreig arlein.
- Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Am ffurflen gais, ewch i wefan rondo.cymru/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i Manon@rondomedia.co.uk
This advert is for the post of Social Media Coordinator for Sgorio for which that ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Manylion
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Cysylltiad Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio