Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau
Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau
Trosolwg:
Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol lle byddwch yn cyfrannu at ddatblygu proffil ac enw da Llenyddiaeth Cymru, a chynyddu ein cynulleidfaoedd a’n cleientiaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru, pob un â chyfrifoldebau penodol i helpu i adrodd stori ein sefydliad.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau
Llawn amser (37 awr yr wythnos), cytundeb parhaol
I ddechrau cyn gynted â phosib
Cyflog: £25,000 pro rata, cyflog cychwynnol (agored i drafodaeth yn seiliedig ar brofiad – cysylltwch am sgwrs)
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2023, 5.00 pm
Cyfweliadau: Dydd Iau 11 Ionawr 2024
Am y Rôl
Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol lle byddwch yn cyfrannu at ddatblygu proffil ac enw da Llenyddiaeth Cymru, a chynyddu ein cynulleidfaoedd a’n cleientiaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru, pob un â chyfrifoldebau penodol i helpu i adrodd stori ein sefydliad.
Mewn rôl sy’n cyfuno elfennau o farchnata, hyrwyddo digidol, a chysylltiadau cyhoeddus, bydd un o’ch prifgyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo ein cyfleoedd a’n gwasanaethau, rhannu ein negeseuon cyfathrebu allweddol, a rhannu effaith ein gwaith. Bydd hyn yn golygu creu a lledaenu cynnwys cyffrous ar gyfer ein sianelau digidol, cynllunio strategol, datblygu cynulleidfaoedd, ysgrifennu copi a golygu, a dadansoddi llwyddiannau ein gweithgareddau cyfathrebu.
Bydd hyn yn mynd law yn llaw â threfnu digwyddiadau cyhoeddus a chaeedig wedi eu targedu at nifer o randdeiliaidgwahanol, yn cynnwys Gwobrau Llyfr y Flwyddyn a digwyddiadau yn y Senedd yn dathlu pŵer llenyddiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan