Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Croeso a Gwasanaethau Cwsmeriaid

Cydlynydd Croeso a Gwasanaethau Cwsmeriaid

Trosolwg:

Pwrpas cyffredinol y rôl: Sicrhau profiad ymwelwyr gorau posib trwy groesawu a chyfarch darllenwyr ac ymwelwyr i’r Llyfrgell. Bod yn gyfrifol am d delio gyda ymholiadau ymwelwyr a phrosesu tocynnau darllen yn y Dderbynfa. Byddwch hefyd yn brif bwynt cyswllt i bobl sydd eisiau llogi ystafelloedd, trefnu cynadleddau neu ddefnyddio cyfleusterau’r Llyfrgell. Byddwch hefyd yn Cynorthwyo’r Rheolwr Masnachol gyda’r gwaith o ddydd i ddydd sydd yn cynnwys y siop a rolau masnachol eraill.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflog: £25,481 - £26,603
Dyddiad Cau: 23/06/2025
Amser Cau: 23:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BU
Disgrifiad:

Pwrpas cyffredinol y rôl: Sicrhau profiad ymwelwyr gorau posib trwy groesawu a chyfarch darllenwyr ac ymwelwyr i’r Llyfrgell. Bod yn gyfrifol am d delio gyda ymholiadau ymwelwyr a phrosesu tocynnau darllen yn y Dderbynfa. Byddwch hefyd yn brif bwynt cyswllt i bobl sydd eisiau llogi ystafelloedd, trefnu cynadleddau neu ddefnyddio cyfleusterau’r Llyfrgell. Byddwch hefyd yn Cynorthwyo’r Rheolwr Masnachol gyda’r gwaith o ddydd i ddydd sydd yn cynnwys y siop a rolau masnachol eraill.

DYLETSWYDDAU ALLWEDDOL

- Croesawu darllenwyr ac ymwelwyr, gan gynnig cyngor a phrosesu tocynnau darllen.
- Bod yn gyfrifol am logi ystafelloedd, gan roi cyngor i’r cyhoedd ac i staff am gyfleusterau cynadledda megis ystafelloedd, lluniaeth, offer ac ati.
- Bod yn rhan o’r tîm sy’n trefnu ymweliadau a theithiau tywys.
- Ymateb i ymholiadau sy’n cyrraedd drwy system ymholiadau’r Llyfrgell (e.e. trefnu digwyddiadau, teithiau tywys, neu logi ystafelloedd a bwyd).
- Cyfathrebu gwybodaeth am ddigwyddiadau yn rheolaidd gyda staff perthnasol, gan drefnu cyfarfodydd wythnosol gyda chynrychiolwyr Caffi Pen Dinas, Ystadau a thechnegwyr. Sicrhau bod y digwyddiadau’n cael eu cofnodi ar y calendr a darparu rhestr wythnosol.
- Cefnogi’r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda digwyddiadau a hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael.
- Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr i flaengynllunio unrhyw ddigwyddiadau, gan sicrhau trefn ac ansawdd effeithiol.
- Gweithredu tasgau gweinyddol megis prosesu ad-daliadau mewnol ac allanol ar system SAGE, a chadw trefn ar ffurflenni perthnasol i ofynion y swydd.
- Cynorthwyo gyda chasglu adborth gan gwsmeriaid a defnyddwyr, a darparu adroddiadau i’r timau perthnasol.
- Casglu a chrynhoi ystadegau ynghylch defnydd allanol o ofodau’r Llyfrgell, a chyflwyno adroddiadau chwarterol.
- Cefnogi tîm y Siop a’r Adran Reprograffeg gyda llungopïo, argraffu, a llwytho eitemau i’r siop ar-lein.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Llinell gyda chreu deunydd hyrwyddo ar gyfer cwsmeriaid y Siop a’r siop ar-lein.
 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Gweithredol Cyfrifon

Tiwtor / Asesydd Ysgol Bro Myrddin (Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam- Hyfforddiant ar gael)

Swyddog Gweinyddol