Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Meirionnydd (dros gyfnod mamolaeth)

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Meirionnydd (dros gyfnod mamolaeth)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  Bydd disgwyl i’r person fod yn gynghorydd  cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau a’u pwyllgorau . Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon.

Cytundeb cyfnod penodedig o 25/08/2025 hyd at 20/07/2026.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM22 – MM25, £29,610 - £32,712 pro rata
Dyddiad Cau: 16/07/2025 (3 diwrnod)
Amser Cau: 23:55:00
Enw Cyswllt: Delyth Jones, Rheolwr Talaith y Gogledd Orllewin
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Ymweld a Chylchoedd Meithrin bob hanner tymor i gefnogi a chynghori a chefnogi’n ychwanegol trwy ffon, e bost  a chyfarfodydd rhithiol ac wyneb i wyneb.
Ymweld a Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi unwaith y tymor.
 

Datblygu Darpariaethau

Adnabod cyfleoedd i  ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ac i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
Cydweithio ag Athrawon Ymgynghorol/ Cyswllt i gynorthwyo darpariaethau i weithredu egwyddorion y Dysgu  Sylfaen, y Cwricwlwm newydd ac ymateb i ofynion Estyn 
Cynghori a chefnogi darpariaethau i baratoi a mabwysiadau  fframwaith CDGPC gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau.
Cydweithio gyda’r cylchoedd a phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon uchel o fewn y ddarpariaeth a gofynion AGC, Estyn, yr Awdurdodau Lleol,  Dechrau’n Deg a CDGPC 
Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
Annog, arwain a chynghori Cylchoedd Meithrin i ymgeisio am gynllun ansawdd Mudiad Meithrin sef Safonau Serennog Arian/Aur
Hyrwyddo cyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Cydweithio a’r cylchoedd Ti a Fi lleol i annog dilyniant i’r Cylch Meithrin ac ymlaen at addysg Gymraeg
Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd. 
Annog y cylchoedd i fuddsoddi amser i ddatblygu Cylchoedd Ti a Fi i ddenu rheini at addysg Gymraeg.
Annog Cylchoedd Ti a Fi i gofrestru ar gyfer gynllun archredu ansawdd Mudiad Meithrin sef Cylch ti a Fi Serennog. 
 

Cefnogaeth Fusnes

Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin

·     Materion ariannol e.e.  rhagolygon llif arian, rhifau torri’n hafal, ceisiadau grant, cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd. 

·     Cynlluniau busnes e.e cynnig arweiniad wrth eu datblygu

·     Materion elusennol e.e gofynion SCE ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau.

·     Materion rheoli AGC e.e sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau yr Arolygaeth

Rheoli Perfformiad e.e cefnogi pwyllgorau i reoli perfformiad staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch.
Bod yn bwynt cyswllt i Berson Cofrestredig/Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.
 

Gweithio mewn partneriaeth

Mynychu cyfarfodydd sirol megis is grwpiau CSGA, grwpiau ansawdd gan eirioli dros ein haelodau wrth gynllunio’n lleol.
Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Chynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin.
Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen
Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .
 

Rhannu arbenigedd

darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a thaleithiol. 
eirioli a hyrwyddo darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol.
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
Mynychu cyfarfodydd tîm  a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn 
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Monitro

Ffurflen Gais

Taflen buddion staff

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Technegydd Cymorth Systemau Gwybodaeth

Ymddiriedolwyr

Cynorthwyydd Digwyddiadau