Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg
Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg
Trosolwg:
Y swydd a’r person: Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn gynghorydd cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau a’u pwyllgorau . Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon.
Cyfweliadau: 6.2.2025 yn swyddfa Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Pentre Poeth, Caerdydd, CF15 8LW
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Ymweld a Chylchoedd Meithrin bob hanner tymor i gefnogi a chynghori a chefnogi’n ychwanegol trwy ffon, e bost a chyfarfodydd rhithiol ac wyneb i wyneb.
• Ymweld a Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi unwaith y tymor.
Datblygu Darpariaethau
• Adnabod cyfleoedd i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ac i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
• Cydweithio ag Athrawon Ymgynghorol/ Cyswllt i gynorthwyo darpariaethau i weithredu egwyddorion y Dysgu Sylfaen, y Cwricwlwm newydd ac ymateb i ofynion Estyn
• Cynghori a chefnogi darpariaethau i baratoi a mabwysiadau fframwaith CDGPC gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau.
• Cydweithio gyda’r cylchoedd a phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon uchel o fewn y ddarpariaeth a gofynion AGC, Estyn, yr Awdurdodau Lleol, Dechrau’n Deg a CDGPC
• Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
• Annog, arwain a chynghori Cylchoedd Meithrin i ymgeisio am gynllun ansawdd Mudiad Meithrin sef Safonau Serennog Arian/Aur
• Hyrwyddo cyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
• Cydweithio a’r cylchoedd Ti a Fi lleol i annog dilyniant i’r Cylch Meithrin ac ymlaen at addysg Gymraeg
• Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd.
• Annog y cylchoedd i fuddsoddi amser i ddatblygu Cylchoedd Ti a Fi i ddenu rheini at addysg Gymraeg.
• Annog Cylchoedd Ti a Fi i gofrestru ar gyfer gynllun archredu ansawdd Mudiad Meithrin sef Cylch ti a Fi Serennog.
Cefnogaeth Fusnes
Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin
• Materion ariannol e.e. rhagolygon llif arian, rhifau torri’n hafal, ceisiadau grant, cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd.
• Cynlluniau busnes e.e cynnig arweiniad wrth eu datblygu
• Materion elusennol e.e gofynion SCE ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau.
• Materion rheoli AGC e.e sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau yr Arolygaeth
• Rheoli Perfformiad e.e cefnogi pwyllgorau i reoli perfformiad staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch.
• Bod yn bwynt cyswllt i Berson Cofrestredig/ Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.
Gweithio mewn partneriaeth
• Mynychu cyfarfodydd sirol megis is grwpiau CSGA, grwpiau ansawdd gan eirioli dros ein haelodau wrth gynllunio’n lleol.
• Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Chynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin.
• Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
• Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen
• Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .
Rhannu arbenigedd
• darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a thaleithiol.
• eirioli a hyrwyddo darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol.
• Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
• Mynychu cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg
Cysylltiad Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg