Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cydlynydd CBT Ar-lein Cymraeg
Cydlynydd CBT Ar-lein Cymraeg
Trosolwg:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Disgrifiad:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Mae CBT Ar-lein yn gwasanaeth Cymru gyfan unigryw sy’n darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n darparu'r gwasanaeth, felly bydd croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar sy’n cynnig y cyfle i weithio gyda chleifion ar draws y wlad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae’r gallu i gynnal sgwrs naturiol yn Gymraeg i gefnogi cleifion yn hanfodol, ynghyd â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gyfwerth).
Rhoddir hyfforddiant gan dîm CBT Ar-lein ar bob agwedd o'r rôl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i wella sgiliau ysgrifenedig Cymraeg os oes angen. Mae cyfleoedd hyfforddiant DPP hefyd ar gael trwy’r bwrdd iechyd. Mae cymorth clinigol ar gael i chi 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gofynion y swydd yn cynnwys cynnal safon uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Cyfnod Penodol: 15 mis (Tymor penodol tan 31/03/2026 oherwydd cyllid)
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gwneud y canlynol: Gweithio o fewn tîm cyfeillgar mawr, ochr yn ochr â Chydlynwyr CBT eraill i hybu a gweinyddu'r Gwasanaeth CBT Ar-lein. Cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr newydd i’r gwasanaeth, rhannu manylion actifadu a monitro cynnydd. Arwain gwaith cyfathrebu gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru. Ysgogi, annog a chynnig cymorth clinigol dros y ffôn/e-bost. Gwneud penderfyniadau ar addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan gadw at brotocolau cyfeirio'r adran a chyfeirio cleientiaid anaddas ymlaen at y gwasanaeth perthnasol.
Cynnig cymorth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cwblhau’r atgyfeiriad, gan ateb ymholiadau sydd ganddyn nhw neu ddefnyddwyr y gwasanaeth. Chwarae rhan weithredol wrth gynnig a chefnogi newidiadau i weithdrefnau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r broses protocol ar gyfer monitro ac adrodd unrhyw rybuddion risg, bwriad troseddol neu ddirywiad cleifion fel yr adroddwyd gan y defnyddwyr naill ai o fewn y system CBT ar-lein neu'n uniongyrchol.
Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunan-atgyfeiriadau. Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gydweithwyr ac i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yn ymwneud â'r gwasanaeth CBT ar-lein.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cydlynydd CBT Ar-lein Cymraeg
Cysylltiad Cydlynydd CBT Ar-lein Cymraeg