Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cydlynydd Academi Gofal Gwynedd

Cydlynydd Academi Gofal Gwynedd

Trosolwg:

Chwilio am swydd lle ma’ cyfle i chi fod yn gymdeithasol, yn greadigol a’n flaengar? Os oes gennych chi’r awch i roi stamp eich hun ar bethau, yr awch i weithio efo arbenigwyr yn y maes Gofal Cymdeithasol a’r awydd i gefnogi pobl ar eu llwybrau gyrfa – dyma'r swydd berffaith i chi! 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Gwynedd
Cyflog: £32,076 - £33,945
Dyddiad Cau: 20/06/2024
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Caernarfon
Disgrifiad:

Cydlynydd Academi Gofal Gwynedd– GWASANAETH Plant a Chefnogi Teuluoedd

CYFLOG: £32,076 - £33,945

LLEOLIAD: Caernarfon

Ref: 24-27263

‘Da chi ffansi bod yn rhan allweddol o gynllun HOLLOL newydd i'r Cyngor? 

Chwilio am swydd lle ma’ cyfle i chi fod yn gymdeithasol, yn greadigol a’n flaengar? 

Os oes gennych chi’r awch i roi stamp eich hun ar bethau, yr awch i weithio efo arbenigwyr yn y maes Gofal Cymdeithasol a’r awydd i gefnogi pobl ar eu llwybrau gyrfa – dyma'r swydd berffaith i chi! 

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. 

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. 

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.) 

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenno Williams ar 01286 679 026 neu e-bost - gofalu@gwynedd.llyw.cymru 

Cynnal cyfweliadau 01/07/2024 

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru 

DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 20/06/2024 

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus 

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol - Plant, Teuluoedd a Diogelu

Cynghorydd y Gymraeg

Rheolwr Cyfathrebu – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru