Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cwnselydd Ysgol (x2 Swydd)

Cwnselydd Ysgol (x2 Swydd)

Trosolwg:

Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a’r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Gwynedd
Cyflog: £34,834 - £36,648 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 30/11/2023
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Ysgol Friars, Lon Y Bryn, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2LN
Disgrifiad:

2 swydd llawn amser 37 awr neu oriau i'w drafod  - un swydd yn ystod tymor yr ysgol a un blwyddyn llawn.

Swyddi dros dro gyda'r bwriad o fod yn barhaol yn y dyfodol

Swyddi i'w lleoli yn Ysgol Friars, Bangor

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dora Wendi Jones ar 07815597244

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a’r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

 Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Gliniadur a ffon symudol

Prif Ddyletswyddau

1. Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc pan a fel bo angen.

2. Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai’n elwa o gwnsela:
• Darparu a trefnu asesiad un i un yn unol â rheoliadau BACP, (British Association for Counselling and Psychotherapy)
• Cydymffurfio a chynnal nifer cyfyngedig o sesiynau yn unol canllawiau’r gwasanaeth â rheoliadau BACP .
• Sicrhau y caiff pob cleient ei asesu a bod naill ai’r gwasanaeth yn delio a’r achos neu y caiff y cleient ei gyfeirio at wasanaeth priodol.

3. Gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â safonau cydnabyddedig darparwyr cwnsela:
• Cydymffurfio â Chod Ymarfer a Fframwaith Moesegol y BACP.
• Dilyn argymhellion Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar arfer dda.
• Hoelio sylw ar drefniadau gwarchod ac amddiffyn plant a phobl ifanc .
• Cynnal cydbwysedd yn annibynnol rhwng Gwarchod a Moeseg – er budd y cleient.

4. Cadw cofnodion safonol ar bob achos:
• Casglu nodiadau sylfaenol ar bob achos unigol .
• Darparu data ac adborth a’i mewnbynnu ar system rheoli gwybodaeth y gwasanaeth.
• Sicrhau cadw yr holl nodiadau yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data .

5. Dilyn gweithdrefn ble ceir barn y defnyddiwr ynglŷn â’r gwasanaeth.

6. Cynnal cysylltiadau cadarn a system cytunedig o gydweithrediad effeithlon gydag asiantaethau perthnasol o fewn ffiniau cyfrinachedd .

7. Ymgynghori a chydweithwyr allweddol eraill ym maes lles a iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dilyn system gyfeirio gytunedig tuag at, ac ymlaen, o’r gwasanaeth.

8. Darparu gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela. Codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc, eu rhieni a phobl broffesiynol eraill ynghylch presenoldeb y gwasanaeth cwnsela a sut mae’n gweithredu. Gwneud staff yr ysgol yn ymwybodol o gwnsela, eu cynghori ynghylch y wefan gwasanaeth cwnsela o fewn yr ystod o wasanaethau cefnogol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.

9. Cyflawni unrhyw dasgau sy’n gysylltiedig a darparu cwnsela mewn ysgolion, sy’n rhesymol i’w ddisgwyl o ystyried cyflog y swydd, ar gais rheolwr llinell.

10. Gwarchod cleientiaid ac eraill sydd mewn perygl o gryn niwed:-
Mae cleientiaid yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Cwnsela i ddarparu lefel uchel o gyfrinachedd. Mae’n hanfodol i’r Cwnselydd ddarparu‘r amgylchedd diogel hwn tra’n cadw cydbwysedd rhwng eu Fframwaith Moesegol ac Amddiffyn Plant. Mae angen monitro anghenion y cleientiaid yn gyson trwy gydol y broses Therapiwtig.

11. Cyd gordio’r gwasanaeth ar lefel ysgol drwy:
• Drefnu a gweinyddu’r gwasanaeth ar y cyd â staff yr ysgol;
• Cyfathrebu a chysylltu â staff yr ysgol, er budd yr unigolyn ifanc, gan gadw oddi mewn i derfynau cyfrinachedd y cleient;
• Gweithredu fel adnodd i staff ysgolion drwy roi cipolwg ar fyd cwnsela a hyrwyddo’r gwasanaeth lle bo modd;

12. Cynnal a datblygu ymarfer proffesiynol drwy reolaeth gyson a pharhaus, goruchwyliaeth glinigol a hyfforddiant, a thrwy gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac archwiliadau o’r gwasanaeth;
• Asesu a rheoli’r risgiau i unigolion, ac i chi’ch hun.
• Monitro, ail-asesu a rheoli’r risgiau i unigolion yn rheolaidd
• Cymryd camau ar unwaith ac sy’n gymesur i ddelio â/mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad sy’n peri risg.
• Cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion gwarchod y Bwrdd lleol Amddiffyn Plant a rhai’r adran.
• Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a polisïau adrannol perthnasol.
• Cadw cofnodion achos cywir ac wedi ei diweddaru a sicrhau bod ffeiliau’n cydymffurfio â gofynion polisi’r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.
• Cyfrannu’n rhagweithiol mewn adolygiadau arfarnu perfformiad a goruchwyliaeth unigol.
• Gwneud cyfraniad positif tuag at y tîm, trwy gydweithio â chydweithwyr a’r rheolwr llinell.
• Mynychu cyfarfod tîm a cymryd rhan mewn unrhyw weithgorau perthnasol a cyfarfodydd adrannol a rhyng-asianaethol eraill fel bo angen.

13. Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Ar adegau, mae yn bosib y bydd disgwyliad i weithio fin nos a/neu penwythnosau.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Codi Arian

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg