Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser) wedi ei leoli yn Ne Wrecsam
Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser) wedi ei leoli yn Ne Wrecsam
Trosolwg:
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Henaduriaeth y Gogledd Ddwyrain yn chwilio am arloeswr Cristnogol gyda gweledigaeth.
Disgrifiad:
Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser)
Wedi ei leoli yn Ne Wrecsam
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Henaduriaeth y Gogledd Ddwyrain yn chwilio am arloeswr Cristnogol gyda gweledigaeth.
Rydym yn bwriadu dechrau gwaith newydd o amgylch pentrefi a threfi yn ne Sir Wrecsam. Y nod yw galluogi cenhadaeth Gristnogol a hyrwyddo tystiolaeth Gristnogol yn bennaf drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn cyd-destun dwyieithog.
Mae’r Henaduriaeth yn agored i drafodaethau gydag unigolion sydd â galwad glir ynglŷn â sut y dylid gweithredu’r gwaith hwn a sut y gallant ei gefnogi. Dylent fod yn unigolyn brwdfrydig ac ysgogol i arwain gwaith newydd.
Manylion y Swydd
Oriau: 21 awr yr wythnos.
Cytundeb: 3 blynedd yn y lle cyntaf gyda'r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf.
Cyflog: Band 31-35 (£32,150 - £34,043 pro rata) ar raddfa gyflog EBC.
Pensiwn: Cyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn EBC.
Lleoliad: Lleolir y swydd hon yn ardal De Wrecsam, a thrwy weithio o gartref.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad DBS manwl a dau eirda boddhaol.
Mae Gofyniad Galwedigaethol Cristnogol a Chymraeg yn berthnasol i’r swydd hon.
I Ymgeisio
Am ragor o wybodaeth ac am ffurflen gais, cysylltwch â:
E-bost: swyddfa.office@ebcpcw.cymru
Ffôn: 02920 627465
Dyddiad Cau: 21ain Mawrth 2025 am 4 o’r gloch y prynhawn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser) wedi ei leoli yn Ne Wrecsam
Cysylltiad Gweithiwr Cymunedol (Rhan Amser) wedi ei leoli yn Ne Wrecsam