Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Cyfathrebu
Rheolwr Cyfathrebu
Trosolwg:
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cynnig cyfle cyffrous ar gyfer Rheolwr Cyfathrebu a fydd yn helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, a hynny drwy weithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod negeseuon addysgiadol, defnyddiol a hygyrch yn cael eu rhannu â defnyddwyr a busnesau ledled Cymru.
Disgrifiad:
Gan gyflawni ymgyrchoedd marchnata a chynnal cysylltiadau rhagweithiol ac ymatebol â’r cyfryngau yng Nghymru, bydd eich gwaith yn helpu i sicrhau negeseuon cyson, gan feithrin perthnasoedd gwaith cryf ag ystod o randdeiliaid, partneriaid a dylanwadwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib.
I’r perwyl hwn, byddwch yn creu cynnwys sy’n berthnasol i Gymru ar gyfer gwefan yr ASB ac ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr ASB. Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’n Tîm Digidol i sicrhau bod yr holl gynnwys a gyhoeddir yn bodloni ein canllaw ar arddull cynnwys yn ogystal â’n safonau hygyrchedd.
Gan fod yr ASB yn gweithio ar draws tair gwlad, byddwch hefyd yn cydweithio i sicrhau bod blaenoriaethau a gweithgareddau ar draws y tair gwlad yn cael eu halinio a’u cyflawni’n effeithiol yng Nghymru. Bydd gennych wybodaeth amlwg o’r cyfryngau lleol a’r dirwedd wleidyddol i allu cefnogi’r meysydd hyn.
Dylech allu cyflawni gwaith o ansawdd uchel a gwneud penderfyniadau effeithiol mewn amgylchedd sy’n gweithredu’n cyflym. Os yw’r cyfle hwn i gael effaith go iawn ar iechyd a diogelwch bwyd Cymru yn apelio atoch chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am y rôl gyffrous hon
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn swydd Rheolwr Cyfathrebu'r ASB
FSA Communications Manager Candidate Pack
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Cyfathrebu
Cysylltiad Rheolwr Cyfathrebu