Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Ceidwad (19 Swydd) - Ardal y Gogledd

Ceidwad (19 Swydd) - Ardal y Gogledd

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am sawl Ceidwad Cadw yn ardal Y Gogledd. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoedd hanesyddol, yna chi yw’r person i ni!

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cadw
Cyflog: £24,421
Dyddiad Cau: 11/04/2025
Amser Cau: 16:00:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Ceidwad Cadw (Y Gogledd) Parhaol - lleoliadau ac oriau gwaith amrywiol

Cyflog: TS – £24,421

Rydym yn chwilio am sawl Ceidwad Cadw yn ardal Y Gogledd. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoedd hanesyddol, yna chi yw’r person i ni!

Ceidwaid Cadw yw wyneb ein busnes - yn croesawu’r cyhoedd, yn ymdrin â mynediad, yn eu helpu i fwynhau eu hymweliad yn ddiogel a dewis anrheg addas. 

Bydd angen i chi fod yn barod am unrhyw beth ac i ateb cwestiynau cwsmeriaid - cwestiynau fel ‘pwy oedd yn byw yma?’, ‘pryd gafodd ei adeiladu?’ a’r pwysicaf oll efallai ‘ble mae’r tŷ bach?’ 

Lleoliad - Y Gogledd

Swyddi ar gael 

• 2 x Ceidwad, Castell Biwmares (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 12 awr)
• 2 x Ceidwad, Castell Biwmares (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 0 awr)
• 3 x Ceidwad, Castell Caernarfon (contract haf18 awr a chontract gaeaf 15 awr) 
• 1 x Ceidwad, Castell Conwy (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 15 awr) 
• 4 x Ceidwad, Castell Conwy (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 0 awr) 
• 1 x Ceidwad, Castell Cricieth (contract haf 14 awr a chontract gaeaf 12 awr) 
• 3 x Ceidwad, Castell Harlech (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 0 awr) 
• 1 x Ceidwad, Plas Mawr (contract haf 31 awr a chontract gaeaf 0 awr) 
• 1 x Ceidwad, Plas Mawr (contract haf 23 awr a chontract gaeaf 0 awr) 
• 1 x Ceidwad, Plas Mawr (contract haf 16 awr a chontract gaeaf 0 awr) 

Gall oriau gwaith gynnwys penwythnosau, a byddwn yn talu cyfradd premiwm ar eu cyfer.

Gofynion y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, neu mae’n rhaid i’r ymgeisydd gytuno i ddysgu Cymraeg ar ôl ei benodi.

Rydym yn chwilio am bobl sy’n awyddus i ddysgu’r Gymraeg i safon ofynnol ar ôl cael eu penodi’ngeidwad.

Mae sawl opsiwn ar gael i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg, yn amrywio o hyfforddiant lefel mynediad i lefel hyfedredd. Ynghyd â gwersi wythnosol, mae cyrsiau ar-lein, hyfforddiant dwys a hyfforddiant preswyl ar gael yn ogystal â chymorth mentora ac offer dwyieithog i’ch helpu i fagu hyder wrth ddefnyddio’r iaith bob dydd. Bydd cynllun dysgu Cymraeg wedi’i deilwra i’ch sgiliau a’ch arddull ddysgu unigol yn cael ei ddatblygu ar ôl eich penodi i’ch helpu i gyrraedd nodau y cytunwyd arnynt.

Cyflog

Y cyflog cychwynnol fydd £24,421. Ni ellir trafod hyn.

Hefyd

• Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol
• Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Dyddiad cau:

16:00pm ar 11/04/2025

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol

Swyddog Ieuenctid Abertawe

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da