Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Ceidwad (12 Swydd) - De Cymru
Ceidwad (12 Swydd) - De Cymru
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am sawl Ceidwad Cadw yn ardal De Cymru. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoedd hanesyddol, yna chi yw’r person i ni!
Disgrifiad:
Ceidwad Cadw (De Cymru) Parhaol - lleoliadauac oriau gwaith amrywiol
Cyflog: TS – £24,421
Rydym yn chwilio am sawl Ceidwad Cadw yn ardal De Cymru. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoedd hanesyddol, yna chi yw’r person i ni!
Ceidwaid Cadw yw wyneb ein busnes - yn croesawu’r cyhoedd, yn ymdrin â mynediad, yn eu helpu i fwynhau eu hymweliad yn ddiogel a dewis anrheg addas.
Bydd angen i chi fod yn barod am unrhyw beth ac i ateb cwestiynau cwsmeriaid - cwestiynau fel ‘pwy oedd yn byw yma?’, ‘pryd gafodd ei adeiladu?’ a’r pwysicaf oll efallai ‘ble mae’r tŷ bach?’
Lleoliad – De Cymru
Swyddi ar gael
• 1 x Ceidwad, Gwaith Haearn Blaenafon (contract haf 15 awr a chontract gaeaf 0 awr)
• 1 x Ceidwad, Castell Talacharn (contract haf 15 awr a chontract gaeaf 0 awr)
• 1 x Ceidwad, Llys a Chastell Tretŵr (contract haf 16 awr a chontract gaeaf 0 awr)
• 1 x Ceidwad, Castell Rhaglan (amser llawn drwy’r flwyddyn)
• 1 x Ceidwad, Castell Rhaglan (contract haf 24 awr a chontract gaeaf 19.5 awr)
• 1 x Ceidwad, Abaty Tyndyrn (contract haf 12 awr a chontract gaeaf 12 awr)
• 2 x Ceidwad, Castell Coch a Chastell Caerffili (contract haf 24 awr a chontract gaeaf 18 awr)
• 1 x Ceidwad, Castell Coch a Chastell Caerffili (contract haf 18 awr a chontract gaeaf 18 awr)
• 1 x Ceidwad, Castell Coch a Chastell Caerffili (contract haf 24 awr a chontract gaeaf 24 awr)
• 2 x Ceidwad, Castell Coch a Chastell Caerffili (contract haf 37 awr a chontract gaeaf 37 awr)
Gall oriau gwaith gynnwys penwythnosau, a byddwn yn talu cyfradd premiwm ar eu cyfer.
Gofynion y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, neu mae’n rhaid i’r ymgeisydd gytuno i ddysgu Cymraeg ar ôl ei benodi.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n awyddus i ddysgu’rGymraeg i safon ofynnol ar ôl cael eu penodi’ngeidwad.
Mae sawl opsiwn ar gael i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg, yn amrywio o hyfforddiant lefel mynediad i lefel hyfedredd. Ynghyd â gwersi wythnosol, mae cyrsiau ar-lein, hyfforddiant dwys a hyfforddiant preswyl ar gael yn ogystal â chymorth mentora ac offer dwyieithog i’ch helpu i fagu hyder wrth ddefnyddio’r iaith bob dydd. Bydd cynllun dysgu Cymraeg wedi’i deilwra i’ch sgiliau a’ch arddull ddysgu unigol yn cael ei ddatblygu ar ôl eich penodi i’ch helpu i gyrraedd nodau y cytunwyd arnynt.
Cyflog
Y cyflog cychwynnol fydd £24,421. Ni ellir trafod hyn.
Hefyd
• Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol
• Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Dyddiad cau:
16:00pm ar 11/04/2025
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *