Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Ceidwad (1 Swydd) - Y De-orllewin
Ceidwad (1 Swydd) - Y De-orllewin
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Geidwad Cadw yn Ne-orllewin Cymru. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoeddhanesyddol, yna chi yw’r person i ni!
Disgrifiad:
Ceidwad Cadw (Y De-orllewin)
Cyflog: TS – £24,421
Rydym yn chwilio am Geidwad Cadw yn Ne-orllewin Cymru. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoeddhanesyddol, yna chi yw’r person i ni!
Ceidwaid Cadw yw wyneb ein busnes - yn croesawu’r cyhoedd, yn ymdrin â mynediad, yn eu helpu i fwynhau eu hymweliad yn ddiogel a dewis anrheg addas.
Bydd angen i chi fod yn barod am unrhyw beth ac i ateb cwestiynau cwsmeriaid - cwestiynau fel ‘pwy oedd yn byw yma?’, ‘pryd gafodd ei adeiladu?’ a’r pwysicaf oll efallai ‘ble mae’r tŷ bach?’
Lleoliad – Y De-orllewin
Swyddi ar gael
• 1 x Ceidwad, Llys yr Esgob Tyddewi
Gall oriau gwaith gynnwys penwythnosau, a byddwn yn talu cyfradd premiwm ar eu cyfer.
Gofynion y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon... bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.
Cyflog
Y cyflog cychwynnol fydd £24,421. Ni ellir trafod hyn.
Hefyd
• Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol
• Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Dyddiad cau:
16:00pm ar 11/04/2025
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *