Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Beili – Canolfan Gyfiawnder Caernarfon (Llys Sirol)

Beili – Canolfan Gyfiawnder Caernarfon (Llys Sirol)

Trosolwg:

Yn Falch o Wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder 

Fel beili, byddwch yn chwarae rôl hanfodol yn system gyfiawnder y DU, gan weithio ar y rheng flaen yn delio â phobl sy’n wynebu rhai o’r cyfnodau mwyaf heriol yn eu bywydau.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF)
Cyflog: £24,202
Dyddiad Cau: 19/06/2025
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: MOJ Recruitment
Ffôn: 03452415359
Lleoliad: Caernarfon Justice Centre (County),  Llanberis Road, Caernarfon, Caernarfon, Cymru, LL55 2DF
Disgrifiad:

Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn asiantaeth o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn darparu cefnogaeth i'r system gyfreithiol ledled Cymru a Lloegr, gan sicrhau bod cyfiawnder yn gweithio i bawb.

Mae ein system gyfiawnder yn amddiffyn ein hawliau sylfaenol a’n rhyddid. Mae’n rhan ganolog o’n cymdeithas fodern. Mae’n amddiffyn rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, o deuluoedd mewn argyfwng i hawlwyr a busnesau masnachol. Mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu system gyfiawnder sy’n hygyrch i bawb ac sy’n gweithredu’n effeithlon.

Bu inni ofyn i rai o’n beilïaid beth oedd eu hoff bethau am eu swydd, a dyma eu hymatebion:

“Y galluoedd rydych eu hangen fel beili yw - y gallu i wrando, bod yn gyfathrebwr da ac mae arnoch angen modd perswadiol i esbonio ei fod yn orchymyn gan y Llysoedd y mae’n rhaid ei gyflawni a dangos llawer o empathi i gwsmeriaid ar yr un pryd.

Rwyf wir yn caru’r swydd hon, dyma yw fy nhrydedd swydd ers i mi adael yr ysgol. Rwy’n 58 oed, ac roeddwn i yn fy swydd gyntaf am 39 o flynyddoedd. Mae’n debyg nad oes gen i 39 arall ar ôl, ond petai gen i, rwy’n gobeithio y byddaf dal yn feili.”

“Mae bod yn feili yn rhoi llawer iawn o foddhad...rydych yn rhan o grŵp arbennig o fewn GLlTEF, gallwch ddysgu drwy brofiad cydweithwyr a fydd wastad wrth law i roi cyngor neu gefnogaeth pan fyddwch ei angen.  Nid yw’n swydd yn unig - mae hi’n fwy am bwy ydych chi a’r ffordd rydych chi’n gwneud y gwaith.”

Eich rôl:

Deallwn na fydd y rôl hon yn addas i bawb, ond os ydych chi eisiau swydd ddeinamig sy’n cyflwyno heriau gwahanol bob dydd, gall rôl beili fod yn addas i chi.

Mae’n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog i fod yn feili llwyddiannus. Mae arnoch angen gallu asesu amgylchiadau yn gyflym, addasu yn unol â’r sefyllfa a bod yn arweinydd hyderus mewn sefyllfaoedd hynod emosiynol.

Fel Beili, byddwch yn ymweld â phobl yn eu cartrefi a’u busnesau. Mae arnoch angen gallu esbonio mewn modd tawel pam eich bod yn ymweld, a pha opsiynau sydd ar gael iddynt i helpu i ddatrys eu problemau. Rhaid eich bod yn gallu dangos empathi tuag at ddefnyddwyr llys, peidio â beirniadu a chanolbwyntio ar gyflawni eich rôl ar yr un pryd â pharchu’r cwsmeriaid byddwch yn eu cyfarfod.

Byddwch yn gallu cynllunio eich dyddiau i reoli eich baich gwaith yn effeithiol ond rhaid eich bod yn gallu addasu oherwydd gall cynlluniau newid ar fyr rybudd.

Byddwn yn rhoi’r opsiwn i chi ddefnyddio eich car eich hun neu, ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf, car prydles, (mae angen trwydded yrru’r DU ar gyfer car prydles). Felly, mae meddu ar drwydded yrru lawn sy’n rhoi’r hawl barhaol i chi yrru yn y Deyrnas Unedig yn hanfodol.  Bydd lwfansau tanwydd yn cael eu talu.  Fe gewch PPE llawn a hyfforddiant diogelwch i roi’r wybodaeth a’r hyder i chi gyflawni eich dyletswyddau fel beili yn llwyddiannus. Dylech fod yn gyfarwydd â defnyddio offer TG a bod yn gyfforddus i dderbyn hyfforddiant ar system rheoli achosion y llysoedd.

Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, mae’n well gennych weithio i ffwrdd o’r swyddfa, rydych yn mwynhau gweithio ar eich pen eich hun neu mewn tîm bach ac yn hoffi gwaith amrywiol, yna gall fod yn feili fod y swydd berffaith i chi.

Yn wahanol iawn i feilïaid preifat, mae’r rôl hon yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth o fewn GLlTEF a datblygu eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.

Rydym yn angerddol am weinyddu cyfiawnder i bawb yn y DU. Mae hyn yn golygu bod â gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Felly, os oes gennych yr hyder a’r awydd i wneud gwahaniaeth ac mae gennych ddiddordeb, ewch amdani ac ymgeisio am y swydd hon.

Cyfeiriwch at y swydd ddisgrifiad (neu broffil y rôl os oes un) sydd ynghlwm i gael mwy o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth:

Ar hyn o bryd mae rôl beili yn GLlTEF yn cynnwys lwfans o £1,000 y flwyddyn. Mae’r lwfans beili yn benodol i’r rôl, nid yw’n destun cyfraniadau pensiwn a gellir ei adolygu, ei ddileu a/neu ei newid ar unrhyw adeg heb rybudd a byddai’n dod i ben petaech yn symud i rôl wahanol.

Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser, yn hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn i chi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Prif faen prawf: Datganiad o Addasrwydd. Gellir cynnal sifft yn seiliedig ar y datganiad o addasrwydd os derbynnir nifer fawr o geisiadau.

Prif leoliad – Canolfan Gyfiawnder Caernarfon (Llys Sirol), Ffordd Llanberis, Caernarfon, LL55 2DF

Mae'r rôl yn cwmpasu Ynys Môn a chyffiniau Caernarfon.
 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Haf Mentrus – Interniaeth Mentergarwch (6 wythnos)

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Tiwtor Asesydd Gogledd Cymru (hyfforddiant ar gael)