Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig sy’n meddwl yn strategol, sydd â sgiliau arwain eithriadol a’r gallu i reoli a datblygu timau amrywiol. Byddwch yn hyderus o ran gallu dychmygu’r amhosibl ac yna mynd ati’n weithredol i’w wireddu.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun â phrofiad blaenorol yn y maes Pobl a rheoli newid, nad yw’n ofn syniadau newydd. Mae hefyd yn gyfle i rywun â sgiliau pobl cryf gydweithio i yrru mentrau sy’n canolbwyntio ar bobl a chreu rhaglenni sy’n gwella ymgysylltiad, boddhad ac effeithiolrwydd sefydliadol cyflogeion, gan helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Disgrifiad:
Ynglŷn â’r rôl
Mae’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am lunio’r strategaeth bobl gyffredinol a helpu i ddatblygu diwylliant y mudiad er mwyn cyd-fynd â chenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd CGGC. Mae’r rôl hon yn hanfodol i sicrhau ein bod yn denu, cadw, datblygu ac yn cael pobl dalentog, gan feithrin diwylliant positif a chynhwysol yn y gweithle.
Mae bod yn fudiad dwyieithog yn rhan bwysig o bwy yw CGGC a’r hyn y mae’n dyheu am fod. Rydym eisiau creu diwylliant lle mae’r Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal ac yn cael ei hymwreiddio yn ein ffyrdd o weithio ar draws y mudiad. Mae gan y swydd hon rôl strategol i’w chwarae mewn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn unol â strategaeth Cymraeg 2050 ac adeiladu cydberthnasau â rhanddeiliaid allweddol, e.e. Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru a’n haelodau.
Pam gweithio yn CGGC
Buddion: Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc a phum diwrnod disgresiwn, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant
Assistant Director of People and Culture
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant
Cysylltiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant