Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Asesydd Allanol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Asesydd Allanol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Trosolwg:

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Aseswyr Allanol i fonitro darpariaeth y Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: City & Guilds
Cyflog: Cystadleuol
Dyddiad Cau: 16/12/2024
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Fel Asesydd Allanol, bydd gofyn i chi asesu a dogfennu cymhwysedd dysgwyr yn erbyn safonau cymhwyster, gan ddefnyddio'r dulliau asesu a nodir.

Bydd eich dyletswyddau yn cynnwys, ond ni fyddant yn gyfyngedig i:

- Asesu a dogfennu cymhwysedd dysgwyr mewn canolfannau neu o bell

Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf hanfodol: 

- Dal neu fod yn fodlon gweithio tuag at gymhwyster Asesydd (unedau D32, D33, A1, neu Hyfforddiant, Asesu a Sicrwydd Ansawdd (TAQA))
- Byw yng Nghymru neu â chysylltiadau trafnidiaeth da â Chymru
- Mae'r gallu i siarad, darllen a deall Cymraeg ysgrifenedig yn hanfodol.

Darperir hyfforddiant ar gyfer y rôl yn dilyn adolygiad llwyddiannus a fetio eich cais.

Mae Aseswyr Allanol yn cael eu contractio'n flynyddol ac nid ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Grŵp City & Guilds, sy'n ei wneud yn gyfle delfrydol i ddod yn Asesydd Allanol yn ychwanegol at eich rôl bresennol.

Mae'n bosibl y bydd y swydd wag hon yn cau'n gynt na'r hyn a hysbysebwyd os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Proffil Rôl

Role Profile

Manyleb person

Person specification

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Systemau Gwybodaeth

Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Swyddog Iaith Croesi’r Bont (dros gyfnod mamolaeth) – Sir Wrecsam a Fflint