Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Arwerthwr a Rheolwr Adran Da Byw

Arwerthwr a Rheolwr Adran Da Byw

Trosolwg:

Mae Farmers Marts yn chwilio am Arwerthwr brwdfrydig i ymuno â’n tîm. Wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, rydym yn enw sefydledig a pharchus yn y diwydiant arwerthiannau da-byw, sy’n enwog am ddarparu gwasanaethau o ansawdd i'n cleientiaid. Mae ein marchnadoedd yn Nolgellau, Machynlleth ac Y Bala yn ganolbwynt i ffermwyr ledled y rhanbarth, ac rydym yn falch o’n perthynas â’n cwsmeriaid trwy ymrwymiad i ragoriaeth, arloesedd ac uniondeb.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Farmers Marts (R G Jones) Ltd
Cyflog: i'w drafod
Dyddiad Cau: 11/11/2024
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: FARMERS MARTS (RG JONES) LTD
Ffôn: 01341422334
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am Arwerthwr brwdfrydig sy'n gallu dangos arbenigedd yn y diwydiant da byw a thueddiadau cyfredol y farchnad. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau cyfathrebu cryf, yn cynnig gwasanaeth cwsmer eithriadol, ac yn gallu cyrchu, hyrwyddo, a rheoli gwerthiannau o fewn ein marchnad arwerthiannau. Mae'r swydd hon yn golygu gweithio'n agos gyda'n tîm ymroddedig i sicrhau llwyddiant a thwf parhaus ein marchnadoedd.

 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:  

·         Ddealltwriaeth gynhwysfawr o ffermio a masnachu da-byw

·         Y gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol i brynwyr a gwerthwyr

·         Y gallu i siarad yn hyderus yn gyhoeddus a rheoli arwerthiannau yn effeithiol 

·         Gweithio mewn cydweithrediad â’n tîm i ehangu a gwella ein gwasanaethau 

·         Bod yn wybodus am dueddiadau’r diwydiant ac anghenion ein cleientiaid

 

Mae llawer o gymhwysterau gwahanol ar gael ar gyfer y maes hwn gan sefydliadau fel yr ‘LAA’, ‘RICS’ a’r ‘CAAV’. Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddianus un o’r cymhwysterau hyn yn barod, neu yn gweithio tuag at gael y cymhwyster neu gyda pharodrwydd i weithio tuag at un neu rai o’r cymhwysterau yn y dyfodol.

 

Sut i Wneud Cais

Os ydych yn angerddol am y diwydiant da-byw ac eisiau bod yn rhan o dîm deinamig yn Farmers Marts, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn agored i ymgeiswyr gyda lefelau amrywiol o brofiad sy’n dangos ymrwymiad i ragoriaeth mewn arwerthiannau. Mae cyflog cystadleuol a thelerau gwaith deniadol ar gael i’r ymgeisydd cywir.

 

Mae croeso i ymgeiswyr anfon eu CV a llythyr eglurhaol yn nodi eu profiad perthnasol a'u gweledigaeth ar gyfer y rôl at swydd@farmersmarts.co.uk. Ceisiadau i'w cyflwyno erbyn 11 Tachwedd 2024.

 

Mae Farmers Marts (R G Jones) Ltd yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i greu amgylchedd cynhwysol i bob gweithiwr.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Hysbyseb/Advert

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Aelod Panel - Gofal Cymdeithasol

Golygydd Comisiynu, Calon (gwasgnod)