Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Arweinydd Rhaglen TG i Ffermwyr
Arweinydd Rhaglen TG i Ffermwyr
Trosolwg:
Mae llawer o ffermwyr yn brin o sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio offer digidol yn effeithiol i'r graddau sydd eu hangen i redeg eu busnesau mor effeithlon â phosibl. Mae buddsoddi mewn cymorth llythrennedd digidol sy'n cynnwys hyfforddiant ymarferol neu diwtora yn allweddol i rymuso ffermwyr i groesawu'r newid hwn.
Disgrifiad:
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i broffesiynoli'r diwydiant ac fel rhan o hyn, mae mecanweithiau allweddol yn cael eu digideiddio fwyfwy. Mae cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r llwyfannau TG i gefnogi ei ddarpariaeth e.e. y newid o Borth y Llywodraeth i OneLogin, meincnodi ar-lein, Storfa Sgiliau, e-ddysgu yn cyflwyno lefel o frys a bydd gwella lefelau llythrennedd TG cwsmeriaid ffermio yn ffactor allweddol yn y defnydd ohono.
Bwriad y prosiect hwn yw datblygu a chyflwyno cyfres o gymorth TGCh ledled Cymru ar sail un-i-un a grŵp.
Bydd y cynnwys yn cael ei deilwra i anghenion ffermwyr unigol a bydd yn addas ar gyfer dechreuwyr a lefel ganolradd.
Nod
· Arwain a goruchwylio rhaglen TG i Ffermwyr, Cyswllt Ffermio
· Sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i ledaenu polisïau, cymorth a negeseuon allweddol
· Arwain ar sicrhau ansawdd a chynnwys y gwasanaeth a ddarperir gan unigolion/cwmnïau annibynnol a fydd yn darparu elfennau o’r gwasanaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Manyleb Swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Arweinydd Rhaglen TG i Ffermwyr
Cysylltiad Arweinydd Rhaglen TG i Ffermwyr