Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)

Arweinydd Academi Amaeth: Rhaglen Hŷn (hunangyflogedig)

Trosolwg:

Mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi’r sector amaeth yng Nghymru i addasu a ffynnu. Mae yn cynnwys rhaglen integredig o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth sy’n meithrin arloesedd ynghyd a gwasanaeth cynghori sydd wedi eu llunio i ddarparu gwell cynaliadwyedd, mwy o gystadleuaeth a pherfformiad amgylcheddol gwell.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Mentera
Cyflog: £6,000
Dyddiad Cau: 28/03/2025
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Einir Davies
Ffôn: 07985 155514
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Yr Academi Amaeth

Yr Academi Amaeth yw rhaglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwledig, arloeswyr ac entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae’n darparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn preswyl dwys, ac mae 2 elfen benodol i’r rhaglen:

●      Rhaglen Busnes ac Arloesedd - wedi’i anelu at gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth o arloeswyr ym meysydd ffermio a choedwigaeth yng Nghymru

●      Rhaglen yr Ifanc - wedi’i anelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant bwyd, amaeth neu reoli tir

 

Mae Rhaglen Hŷn (Busnes ac Arloesedd), sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn anelu at:

●      Wella dealltwriaeth aelodau o faterion a meddylfryd sy'n effeithio ar lwyddiant eu busnes

●      Gwella ymwybyddiaeth aelodau o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu eu busnes yn y dyfodol

●      Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau

●      Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiantCreu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes

●      Hybu rhwydweithio effeithiol ymysg y busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru

 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, entrepreneuraidd ac egnïol i drefnu, hwyluso ac arwain Academi Amaeth 2025. Mae’r sesiynau preswyl fel arfer yn cael eu cynnal ym mis Medi, Hydref a Tachwedd. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Manyleb Swydd Academi Amaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Datblygu

Swyddog Adnoddau Dynol

Aelod o'r Grŵp Cyfeirio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant