Roedd 'na ddigon o heulwen braf, cerddoriaeth arbennig a bwyd a diod blasus iawn yng Ngŵyl Canol Dre 2022 dros y penwythnos. Dyma ddetholiad o luniau'r Ŵyl. Mwynhewch!
A dyna oedd Gŵyl Tafwyl 2022, a'r gyntaf lawn ers tair blynedd wrth i filoedd fwynhau parti mawreddog yn yr heulwen o fewn muriau a thiroedd ysblennydd Castell Caerdydd. O gerddoriaeth wych i fwydydd anhygoel, o berfformiadau celfyddydol i sgyrsiau addysgiadol, roedd yna fwy na digon i ddifyrru pawb o'r teulu. Dyma ddathliad hyderus a phwerus o'n Cymreictod yn ei amryfal ffyrdd yng nghalon ein prifddinas a gwych ei weld yn dychwelyd! Yr ydym wedi dethol rhai o'r delweddau sy'n crisialu holl fwrlwm yr Ŵyl eleni. Os nad oeddech chi yno, dyma gyfle i gael blas ar yr hwyl. Mae Lleol.cymru wedi cofnodi dydd Sul Gŵyl Tafwyl 2022 mewn lluniau. Mwynhewch!
Mae Lleol.cymru wedi cofnodi Gŵyl Tafwyl 2022 hyd yn hyn mewn lluniau. Mwynhewch!
Wrth i'r Urdd ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed, mae'r Eisteddfod yn Sir Ddinbych wedi dechrau gyda bang, wrth i filoedd dyrru a chystadlu yn y maes braf yn Nyffryn Clwyd dros y tridiau diwethaf. "Mae'n braf bod yn ôl" yw'r gri ar hyd a lled y maes, ac mae'n wych gweld bwrlwm yr Eisteddfod yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o ddim, a dwy flynedd o ansicrwydd a phryder. Ac mae'r haul yn ôl yn gwenu ar yr Urdd bellach wrth i filoedd ddod at ei gilydd i ddathlu canfed pen-blwydd. Mae Lleol.cymru wedi cofnodi'r Eisteddfod hyd yn hyn mewn lluniau, gyda chymorth lluniau eisteddfodwyr a sefydliadau sydd ar y Maes! Mwynhewch!
Roedd 'na ddigon o heulwen braf, cerddoriaeth arbennig a bwyd a diod blasus iawn yng Ngŵyl Fach y Fro yn Ynys y Barri dros y penwythnos. Dyma ddetholiad o luniau'r Ŵyl. Mwynhewch!
- Popeth31
- Sioe Frenhinol Cymru 2
- Gŵyl Canol Dre 2
- Gŵyl Tafwyl 3
- Bwyd a Diod 2
- Chwaraeon 3
- Gwleidyddiaeth 1
- Iaith 6
- Amaethyddiaeth 2
- Hamdden 7
- Arian a Busnes 1
- Cerddoriaeth 3
- Llenyddiaeth 2
- Celfyddydau 2
- Iechyd 1
- Diwylliant 4
- Eisteddfod yr Urdd 4
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2
- Gwyliau 6
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 2
- Rhian Cadwaladr 1
- Aled Hall 1
- Richard Jones 1
- Hydref 1
- Gaeaf 1
- Sioe Môn 1
- Busnes mewn lluniau 2
- Llefydd o ddiddordeb 1
- Llelo Gruffudd 1
- Cwpan Pêl-Droed y Byd 2022 3
- Llion Griffiths 1