Ysgol gynradd yng Ngheredigion yn cyflawni safon aur yn y Siarter Iaith
Mai 12, 2022
Dyffryn Cledlyn yw’r ail ysgol yng Ngheredigion i gyrraedd y safon hwn. Gwelwyd gwaith arbennig a thystiolaeth gadarn o’r Gymraeg yn fyw o fewn cymuned yr Ysgol.
Dywedodd Anwen Eleri, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg: “Pleser oedd gweld y disgyblion yn cymryd perchnogaeth o waith y Siarter yn yr ysgol; roedd eu brwdfrydedd yn heintus. Braint oedd cael gwrando ar gyflwyniadau y disgyblion a gweld ffrwyth llafur a llwyddiant eu prosiectau. Roedd cael ymuno â’r clwb iwcaleli tra yn ymweld yn binacl hefyd.”
Arweinir y gwaith gan Mari ac Ethan y Dreigiau Cymraeg â’r Cyngor Ysgol.
Criw gweithgar
Ychwanegodd Mr Hywel Roderick, athro a chydlynydd y siarter, a fu’n cefnogi’r criw: “Rydym wrth ein boddau! Mae’r criw yn weithgar ac yn awyddus iawn ac yn cymryd eu rôl o ddifrif. Mae’r Siarter Iaith ar waith drwy’r Ysgol gyfan a phob un aelod o staff a disgybl yn rhan o’r llwyddiant hwn – ymfalchiwn yn y cydweithio arbennig.”
Mae’r Siarter iaith ar waith yn holl ysgolion cynradd y sir ac yn datblygu yn y sector uwchradd. Mae pawb ar y siwrne ac mae yna waith arbennig yn digwydd ar hyd a lled y Sir.
- Popeth5878
- Newyddion 5524
- Addysg 2048
- Hamdden 1841
- Iaith 1569
- Celfyddydau 1403
- Amgylchedd 967
- Gwleidyddiaeth 926
- Iechyd 661
- Llenyddiaeth 641
- Cerddoriaeth 583
- Arian a Busnes 501
- Amaethyddiaeth 433
- Bwyd 403
- Chwaraeon 346
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 289
- Ar-lein 259
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 258
- Eisteddfod yr Urdd 147
- Hyfforddiant / Cyrsiau 49
- Cystadlaethau 46
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3