Yr Egin yn 5 mlwydd oed

Hydref 26, 2023

Mae Canolfan S4C Yr Egin – canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn dathlu ei phen-blwydd yn 5 oed.

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi ennill ei phlwyf wrth galon campws Caerfyrddin y Brifysgol gan ddarparu cyfleoedd i'r diwydiannau creadigol, myfyrwyr a staff yn ogystal â'r gymuned leol i greu, dysgu a mwynhau ei chyfleusterau blaengar.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae'r Egin wedi tyfu’n lleoliad ddiwylliannol bywiog, ac yn ganolfan fusnes a chreadigol. Mae'r Egin yn ddatblygiad trawsnewidiol, yn gartref i bencadlys S4C ac 16 o sefydliadau tenant yn ogystal â chwmnïau a gweithwyr llawrydd eraill sy'n defnyddio'r cyfleusterau desgiau poeth.  Gyda 100% o’r gofod sydd i'w logi wedi’i feddiannu, mae'r adeilad eiconig yn ganolbwynt creadigol a diwylliannol i'r gymuned greadigol yn ogystal ag ar gyfer cymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth.

Mae'r Egin, sy'n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, stiwdio recordio, ystafell sgrîn werdd, man perfformio mawr, a chaffi, wedi darparu ar gyfer nifer o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a dangosiadau i aelodau'r cyhoedd yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a digidol.

Yn ystod 2022-2023, ymgysylltodd dros 12,000 o bobl â'r Egin drwy gymryd rhan neu fynychu gweithdai, cyfarfodydd, cynadleddau, digwyddiadau neu berfformiadau.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae effaith ariannol Yr Egin ar yr economi yn dangos fod: 

- Yr Egin wedi creu effaith economaidd o £21.6m ar economi Cymru yn 2022-23
- Yr Egin wedi creu effaith economaidd o £7.6m ar economi Sir Gaerfyrddin yn 2022-23
- Cyfanswm o 176 o staff wedi eu cyflogi gan fusnesau tenant yn Yr Egin ym mis Medi 2023.
- Yr Egin yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a'u profiad trwy rwydweithio a chydweithio.
- Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at effaith Yr Egin ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, sgiliau a hyfforddiant ac ymgysylltiad ehangach â'r gymuned leol, sy'n helpu i leihau allfudo ac yn galluogi siaradwyr Cymraeg o oedran gweithio i gyfrannu i weithgareddau Cymraeg a chynnal gwead cymdeithasol a diwylliannol eu hardal.

Mae diwrnod o ddathlu wedi cael ei drefnu ddydd Iau, 26 Hydref yn Yr Egin lle gwahoddir rhanddeiliaid i nodi'r garreg filltir hon.