Ymchwil bisgedi siwgr is yn arwain at lwyddiant
Mehefin 09, 2023
Bu’r cwmni o Lanrwst, Shepherd’s Biscuits Ltd, wrth wraidd prosiect a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i weld a oes modd gostwng y lefelau siwgr mewn ryseitiau bisgedi heb effeithio ar flas, gwead neu ymddangosiad y cynnyrch.
Wedi’u cymell gan yr angen i wella iechyd defnyddwyr a’r posibilrwydd o gyflwyno treth siwgr i gynhyrchwyr bwyd, dechreuodd cyfarwyddwyr y busnes pobi, James Shepherd a James Wasdell, ar brosiect a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i ddod â lefelau siwgr mewn bisgedi i lawr 20 i 30 y cant.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru, dechreuodd Shepherd’s Biscuits ar ymchwil i ‘Ddatblygu datrysiadau siwgr is a charbohydrad is ar gyfer y diwydiant bisgedi gyda phosibiliadau ar gyfer y sector pobi ehangach yng Nghymru’.
Dywedodd James Shepherd, “Gwelsom effeithiau’r dreth siwgr ar ddiodydd a dyfodiad diodydd diet a sero siwgr, lle mae nifer ohonynt yn cynnwys melysyddion cryf. Mae llawer o siarad wedi bod ynghylch y dreth siwgr ar fwyd hefyd, a chredaf y bydd hyn yn digwydd. Felly, pan glywais sôn am Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru, fe wnes i gais i ddatblygu bisged siwgr is.”