Y Sioe Frenhinol i barhau i ddigwydd adeg gwyliau haf ysgolion
Mehefin 04, 2024
Mae CAFC yn dal i ddisgwyl eglurhad am y sefyllfa’n yr hir dymor. Dyw hi ddim eto’n eglur p’un ai fydd y Llywodraeth yn ail-ymgynhori am strwythr y flwyddyn ysgol yn ystod tymor y senedd nesaf, neu yn gweithredu bryd hynny.
Dydy caredigion y Sioe Fawr fyth wedi gwrthwynebu bod y Llywodraeth yn ymgynghori ar strwythr y flwyddyn ysgol. Eu cri nhw oedd bod unrhyw newid ddim yn niweidio’r sioe.
Bu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru am strwythr y flwyddyn ysgol, mewn peryg o orfodi’r Sioe Fawr i gael ei chynnal tra bod ysgolion Cymru’n parhau ar agor. Gofid CAFC oedd y byddai hyn yn rhwystro plant a theuluoedd rhag mynychu, ac y byddai hynny’n peryglu dyfodol y sioe.
Bellach, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar hyn o bryd, ac o ganlyniad bydd ysgolion Cymru ar gau yn ôl yr arfer wrth i’r sioe gael ei chynnal tan 2026.
Wrth groesawi’r newyddion dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC, “Pe bai’r Sioe wedi cael ei gorfodi i ddigwydd tra bod plant Cymru’n parhau yn yr ysgol, bydda’i hyfywedd y digwyddiad mwyaf o’i fath yn Ewrop sy’n cyfrannu cymaint at ddiwylliant ac economi Cymru, wedi bod yn y fantol.
Gyda’n disgyblion ni’n rhydd i fynychu’r Sioe, cawn ni barhau i fod yn bartneriaid yn addysg ieuenctid Cymru, drwy ddarparu’r holl brofiadau a chyfleoedd all-gyrsiol gwerthfawr ry’n ni wastad wedi gwneud.”
Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor CAFC, Nicola Davies, “Mae’n diolch ni i’n haelodau ni am wrthwynebu ymgynghoriad y Llywodraeth yn fawr.
Profodd eu hymateb bod ein gwyl yn un sy’n agos at galonnau trigolion gwlad a thref. Ni fydd unrhywun nawr yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i’w mynychu a fydd y Sioe ddim yn cael ei hamddifadu o’i ran mewn datblygu Cymru ffyniannus. Ond pe bai ei bodolaeth dan fygythiad eto’n y dyfodol ry’n ni’n ffyddiog y byddai’n haelodau ni’n brwydro’n llawn mor egnïol i’w gwarchod.”
Bydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn digwydd rhwng Gorffennaf yr 22ain a’r 25ain 2024 ar faes y sioe yn Llanelwedd.
- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3