Y Scarlets yn ymuno â Hybu Cig Cymru i gyhoeddi canllaw ffitrwydd a maeth

Medi 26, 2022

Mae’r Scarlets wedi ymuno â Hybu Cig Cymru (HCC) i gyhoeddi canllaw ffitrwydd a maeth cynhwysfawr i bobl ifanc Cymru.

Lansiwyd y llyfryn mewn digwyddiad arbennig ym Mharc y Scarlets, gyda’r cogydd teledu Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn coginio gwledd i rai o’r chwaraewyr, wrth i’r rhanbarth barhau i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.

Yn dwyn y teitl ‘Eich canllaw chi i fyw’n iach heb fawr o strach’, mae’r canllaw’n cynnwys ryseitiau iachus, cyngor ar gadw’n heini ac yn egnïol, ac mae’n tynnu sylw at fanteision maethol niferus diet cytbwys gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau lleol.

Ac yntau wedi’i fagu ar fferm wartheg a defaid yn Llanymddyfri, mae prop y Scarlets, Wyn Jones, yn gwybod yn iawn am yr angerdd a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i gynhyrchu cynnyrch lleol o safon fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Wrth siarad am bwysigrwydd maeth da wrth gefnogi diwydiant amaethyddol Cymru, dywedodd Wyn: “Fel athletwr o Gymru, mae Cig Eidion Cymru yn bwysig i mi ar ddwy lefel. Nid yn unig y mae’n ffynhonnell ardderchog o brotein, yn llawn llawer o fanteision maethol sy’n hanfodol ar gyfer fy adferiad, ond a minnau’n dod o gefndir ffermio, rydw i hefyd yn gwerthfawrogi sut a ble y caiff ei ffermio.

“Mae’n dda gwybod bod Cig Eidion Cymru a Chig Oen Cymru yn cael eu bridio yma, yn lleol i Lanelli ac i mi yn Llanymddyfri. Mae gwybod fy mod yn bwyta cynnyrch lleol, naturiol, o safon sydd wedi derbyn gofal, gyda digon o awyr iach ac yn cael ei fwydo ar laswellt, yn rhywbeth eithaf arbennig.”

Aeth y cogydd barbeciw a seren y teledu, Chris Roberts, draw i Barc y Scarlets i helpu i lansio’r llyfryn a choginio brechdanau stêc Cig Eidion Cymreig iach ar gyfer y chwaraewyr.

Dywedodd Chris: “Y peth gwych am Gig Eidion Cymru yw nad oes rhaid ei lwytho â sawsiau cyfoethog iddo flasu’n dda. Mae stêc Cig Eidion Cymru, fel syrlwyn, yn rhyfeddol, wedi'i sesno'n ysgafn a'i grilio a'i weini gyda salad neu salsa blasus - mae hefyd yn rhyfeddol mewn pryd tro-ffrio cyflym ac iach.

“Mae Cig Eidion Cymru, yn ogystal â Chig Oen Cymru, mor hawdd i'w paratoi a'u coginio ac rydych chi'n cael blas anhygoel a llawer o ddaioni ar yr un pryd. Allwch chi ddim dweud hynny am lawer o fwydydd!"

Mae HCC wedi bod yn gweithio ar nifer o fentrau’n ddiweddar gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o sut y gall cig coch Cymreig o safon, o ffynonellau lleol, fod yn rhan bwysig o ddiet pobl. Mae hyn ynghyd â rhinweddau cynaliadwyedd cryf y diwydiant yng Nghymru, a manteision niferus pobl yn prynu bwyd o ffynonellau lleol ac wedi'i gynhyrchu'n foesegol.

Ychwanegodd Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC, Rhys Llywelyn: “Mae HCC yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Scarlets i greu’r canllaw defnyddiol hwn a helpu i amlygu manteision maethol cig coch. Mae’r llyfryn hwn yn ddelfrydol ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau cadw’n heini ac iach a byw bywyd egnïol.

“Os ydyn nhw’n meddu ar y wybodaeth y gall bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau lleol chwarae rhan annatod mewn maeth, gall pobl ifanc hefyd deimlo eu bod wedi'u grymuso gan wybod, er eu bod yn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru, eu bod hefyd yn chwarae rhan annatod wrth gefnogi economïau eu cymunedau lleol.”

Mae’r canllaw ar gael yn rhad ac am ddim o siop clwb y Scarlets neu gellir ei lawrlwytho hefyd o adran iechyd www.eatwelshbeef.com 

Mwy

GWELD POPETH

Menter a Busnes agor tair swyddfa newydd

Arian y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu at nerth a gwerth cymuned

Adam Jones y Garddwr wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Garddwriaeth newydd i Sioe Frenhinol Cymru

  • Popeth6260
  • Newyddion
    5841
  • Addysg
    2125
  • Hamdden
    1861
  • Iaith
    1631
  • Celfyddydau
    1451
  • Amgylchedd
    1001
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    680
  • Llenyddiaeth
    645
  • Cerddoriaeth
    600
  • Arian a Busnes
    550
  • Amaethyddiaeth
    487
  • Bwyd
    448
  • Chwaraeon
    366
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    320
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    277
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    176
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    72
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3