Y Llyn yn dod i Lanelli a Rhydaman

Medi 24, 2024

Bydd chwedl Gymreig yn cael ei hail-greu ar lwyfan wrth i Y Llyn gyrraedd Y Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Mercher 16 Hydref am 7:30pm, a’r Glowyr, Rhydaman ar ddydd Iau 17 Hydref am 7:30pm.

Mae Y Llyn yn berfformiad cerddorol a dawns sydd wedi'i ysbrydoli gan chwedl Llyn y Fan Fach, a chaiff y stori ei hadrodd yn y Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd, gyda dehongliad BSL gan Cathryn McShane. Bydd y stori am gariad, colled, hud a lledrith yn nhirwedd Cymru yn dod yn fyw ar y llwyfan yn y fersiwn newydd sbon hon o'r hen glasur.

Mae Michael Harvey, cyfarwyddwr y cwmni newydd sbon BANDO!, wedi cychwyn ar daith gyffrous yn dilyn eu llwyddiant yn Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi sicrhau grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a fydd yn eu galluogi i deithio gyda’u sioe hynod ganmoladwy.

Mae BANDO! yn dod ag artistiaid o wahanol ffurfiau celfyddydol at ei gilydd i greu profiad perfformiad unigryw. Mae’r sioe wedi’i chynllunio i’w mwynhau gan siaradwyr rhugl Cymraeg, dysgwyr ac y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, gan drochi’r gynulleidfa yn y perfformiad heb yr angen am gyfieithu allanol. Mae'r dull arloesol hwn yn gwahodd pawb i ymgysylltu â’r gelfyddyd mewn ffordd sy'n croesi ffiniau iaith.

Bydd chwedleuwr Michael Harvey gyda cherddor Stacey Blythe a dawnswraig Eeva-Maria Mutka yn creu profiad adrodd straeon sydd yn cyd-blethu’r Gymraeg, Saesneg, cerddoriaeth a gwaith corff am yr un pryd.

Y mae’r chwedl hon yn tarddu o’r Bannau Brycheiniog. Roedd dyn ifanc yn arfer gwarchod eu defaid a’u gwartheg wrth syllu ar y llyn a dychmygu ei ddyfodol. Stori serch brydferth am hud, lledrith a’r ferch hudolus o’r llyn.

Dywedodd Michael Harvey, “I knew from working with Stacey that storytelling and music were a fit. I had already discovered that Welsh/English bilingual telling worked and from working with Eeva-Maria I knew that the body and storytelling were a dynamic combination. What would happen if we put them all together? We premiered at Beyond the Border, it went down a storm and soon we’ll be on tour!” 

Peidiwch â phoeni os dych chi ddim yn siarad Cymraeg. Roedd ein cynulleidfa gyntaf yn gymysgedd o Gymry Cymraeg a’r di-gymraeg ac roedd pawb yn gallu dilyn y sioe ac roeddynt wrth eu boddau peidio defnyddio offer cyfieithu.

Dyma ddim ond casgliad cyfyng o’r ymatebion cawson ni ar ôl y blaenwelediad yn 2021:

“Dyma oedd uchafbwynt Gŵyl Chwedleua Beyond the Border i fi. Roedd ‘na gyd-blethu go iawn rhwng y perfformwyr a greodd fin i’r chwedl atseiniol hon a daeth yr hanes i mewn i’n cyrff mewn fordd drydanol a theimladwy.”

Gyda dehongliad BSL gan Cathryn McShane a gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

Tocynnau £12.50 (£10.50 consesiynau) a gellir archebu tocynnau ar-lein yn www.theatrausirgar.co.uk neu gyda’n swyddfa docynnau ar 0345 2263510

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3