Y Lleuad a'r Sêr yn ennill Cân i Gymru
Mawrth 09, 2015
Fe ddigwyddodd Cân i Gymru darfu megis seren wib, gyda Môn Mam Cymru yn dod i'r brig. Cân a berfformiwyd gan Elin Angharad a’i sgwennu gan Arfon Wyn yw Y Lleuad a'r Sêr a enillodd Cân i Gymru am eleni a gwobr o £3,500.
Cantores ifanc o bentref Gaerwen, Ynys Môn yw Elin Angharad. Wedi blwyddyn yn astudio theatr cerdd yn Efrog Newydd, mae bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn gobeithio astudio mewn coleg cerdd a drama'r flwyddyn nesaf.
"Caneuon o sioeau cerdd sy'n llonni fy mryd i fel arfer, ond mae'n fraint cael canu cân pop fel Y Lleuad a'r Sêr ac roedd cael cyfansoddi'r gân hefo Arfon Wyn o'r Moniars yn brofiad arbennig!" meddai Elin.
Tra fod Elin yn newydd i'r busnes Cân i Gymru, roedd ei phartner creadigol, y chwedlonol Arfon Wyn ar y llaw arall yn hen law ar y gystadleuaeth, a dyma'r diweddaraf o sawl llwyddiant dros y blynyddoedd.
Mae Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, yn llongyfarch pawb fu'n cymryd rhan, "Unwaith eto eleni, roedd safon y caneuon yn eithriadol o uchel, a llongyfarchiadau i’r holl berfformwyr am noson llawn egni a thalent. Ond dim ond un enillydd sydd, a’r gân honno ydy Y Lleuad a’r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu buddugoliaeth a phob lwc iddyn nhw yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon."
Yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd wyth o ganeuon amrywiol: O'r Brwnt a'r Baw gan Darren Bolger; Cariad Pur gan Catrin Hopkins a Pheena; Y Llais gan Aled Evans; Tri Mis Yn Ôl gan Cai Morgan a Lewys Mann; Pluen Wen gan Neil Maliphant; Oes yn Ôl gan Sera Owen; Tynna Fi I'r Glaw gan Team Panda a Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn.
Ac wedi i'r beirniaid ddewis y pedair cân i berfformio eto yn y rownd uwchderfynol, fe roddwyd y dasg o ddewis enillydd yn nwylo'r gwylwyr drwy'r bleidlais ffôn. Roedd y bleidlais honno yn cyfri am hanner y marciau, gyda'r hanner arall yn cael ei phenderfynu gan aelodau'r rheithgor gwadd.
Ar y panel eleni roedd Aled Haydn Jones, y gantores amryddawn Caryl Parry Jones, y cyflwynydd radio Lisa Gwilym a'r hyfforddwr llais Euros Rhys Evans.
Ewch i wefan S4C - s4c.cymru/canigymru - i wrando ar bob un o'r caneuon fu'n cystadlu ar y noson, a gallwch wylio'r rhaglen eto yn ei chyfanrwydd ar S4C Clic, s4c.cymru/clic.
Dyma olwg fwy amrwd a di-flewyn ar dafod trwy Trydar o’r gystadleuaeth hon:
- Popeth6384
-
Newyddion
5954
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
573
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3