Wythnos bwyd môr Cymru yn dathlu cynhaeaf y môr
Hydref 07, 2024
Bydd gwerthwyr pysgod a manwerthwyr sy’n gwerthu bwyd môr o Gymru yn cynnwys arddangosfeydd arbennig ac yn hyrwyddo #BwydMôrCymru i gwsmeriaid yn eu siopau ac ar-lein. Nod hyn i gyd yw tynnu sylw at safon ac amrywiaeth y dalfeydd o amgylch arfordir Cymru.
Gan ddefnyddio’r hashnodau #BwydMôrCymru #WelshSeafood, bydd pysgotwyr a’r rheini yn y sector bwyd môr ehangach yn annog pobl i chwilio am gynnyrch o Gymru a’i ddathlu.
Yn ôl rheolwr Clwstwr Bwyd Môr rhaglen Bwyd a Diod Cymru, Chris Parker, bydd Wythnos Bwyd Môr Cymru yn caniatáu i’r sector dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o fwyd môr sydd ar gael yng Nghymru ac annog pobl i fwyta mwy o bysgod yn amlach.
Dywedodd: “Bob dydd, byddwn yn hyrwyddo gwahanol rywogaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddangos yr amrywiaeth sydd ar gael. Bydd Wythnos Bwyd Môr Cymru yn canolbwyntio ar y digonedd o gynnyrch ffres sydd ar gael ac yn dangos y gwahanol ffyrdd y gallwch ei ddefnyddio.
“Efallai y bydd angen esboniad ar rai pobl ynghylch pa fwyd môr i’w brynu neu sut i’w goginio gartref ond, peidiwch â phoeni, byddwn yn rhannu awgrymiadau coginio drwy gydol yr wythnos. Rydyn ni hefyd yn awgrymu bod pobl yn siarad â’u gwerthwr pysgod lleol. Bydd ganddyn nhw amrywiaeth o fwyd môr o Gymru ar gael a gwerth blynyddoedd o brofiad ac awgrymiadau i’w rhannu â chwsmeriaid. Byddan nhw hefyd yn gallu paratoi’r cynnyrch yn ôl yr angen.”
Dywedodd Kevin Todd o E. Ashton & Co, gwerthwyr pysgod ym Marchnad Caerdydd: “Mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o fwyd môr o Gymru sydd ar gael a thynnu sylw at y bwyd môr o safon uchel rydyn ni’n ei werthu. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i gefnogi fflyd bysgota Cymru.”
I helpu gyda’r ymgyrch, mae pecynnau o nwyddau #BwydMôrCymru #WelshSeafood, sydd wedi’u brandio, ar gael i werthwyr pysgod a manwerthwyr eu defnyddio wrth werthu eu cynnyrch.
Ychwanegodd Chris: “Bwriad #BwydMôrCymru hefyd yw cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy’n rhoi’r bwyd ar ein byrddau. Er yn gymuned glòs, mae gweithio yn y diwydiant pysgota yn gallu bod yn brofiad go unig oherwydd natur y swydd. Mae’r wythnos, felly, yn gyfle i dynnu sylw at bawb sy’n gweithio yn sector pysgota Cymru – a’u gwerthfawrogi!”
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3