Wythnos brecwast ffermdy UAC yn codi dros £16,000 at achosion da
Chwefror 01, 2023
Cynhelir wythnos brecwast ffermdy UAC er mwyn hybu’r manteision iechyd o gael brecwast, hybu’r bwyd cynaliadwy a maethlon a gynhyrchir gan ffermwyr yng Nghymru, a hefyd er mwyn cael y cyfle i roi’r byd yn ei le cyn i’r diwrnod ddechrau.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts, a fu hefyd yn cynnal digwyddiad brecwast ar ei fferm, dydd Gwener 27 Ionawr: “Rydym wedi mwynhau wythnos brecwast ffermdy hynod o lwyddiannus, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ac wedi ymuno â ni am frecwast. Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i siarad â’n gilydd a’n bod ni’n rhannu’r baich.”
Ychwanegodd Guto Bebb, Prif Weithredwr UAC: “Mae staff, swyddogion etholedig ac aelodau’r Undeb wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd unwaith eto. Daeth nifer fawr o bobl i ddigwyddiadau brecwast ledled Cymru, ac yn ogystal â thynnu sylw at gynnal iechyd meddwl da, roedd hefyd yn gyfle gwych i siarad â’n gwleidyddion a thrafod llawer o faterion ffermio pwysig megis Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.”
- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3