Tŷ Gobaith yw elusen Uchelgais Gogledd Cymru eleni
Hydref 25, 2023
Yn awyddus i gefnogi gwaith tîm yr hosbis trwy godi arian, mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd eisiau sicrhau ei fod yn gwneud cyfraniad, nid yn unig at les economaidd y rhanbarth, ond hefyd at les y gymuned yn ehangach.
Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru: “Roedden ni am gydnabod gwaith diflino staff a gwirfoddolwyr Tŷ Gobaith wrth iddynt ddarparu gwasanaethau hanfodol i blant sy’n wynebu heriau difrifol. Drwy wneud hyn rwy’n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau’r teuluoedd hyn a helpu Tŷ Gobaith i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith anhygoel maen nhw yn ei wneud.”
Yn rhan o’r bartneriaeth, bydd Tŷ Gobaith yn derbyn cefnogaeth yn sgil gweithgareddau codi arian staff Uchelgais Gogledd Cymru, gan gynnwys ddigwyddiadau codi arian yr hydref hwn yng Nghastell Penrhyn, RSPB Conwy a Chastell y Waun. Wedi’u trefnu gan Tŷ Gobaith ei hun, mae’r digwyddiadau, Dark Run, 5k i deuluoedd yn annog pobl i redeg neu gerdded y pellter wrth iddi nosi, i gefnogi’r hosbis.
Gan ddiolch am y gefnogaeth, dywedodd Andy Everley o Tŷ Gobaith: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Uchelgais Gogledd Cymru am ein dewis ni fel eu elusen eleni. Rydym yn edrych ymlaen at gyd weithio dros y 12 mis nesaf. Heb os bydd eu cefnogaeth yn helpu ni i sicrhau bod y rhai sy’n wynebu cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yn cael y gofal, y cysur a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.”
Agorodd Hope House ddrysau ei hosbis gyntaf ym 1993 fel dim ond y ddegfed hosbis i blant yn y byd - heddiw mae’n cefnogi 750 o deuluoedd. Agorodd yr ail hosbis, Tŷ Gobaith yng Nghonwy yn 2004 – gan ddarparu gwasanaethau i deuluoedd yng Ngogledd Cymru.
- Popeth6260
-
Newyddion
5841
-
Addysg
2125
-
Hamdden
1861
-
Iaith
1631
-
Celfyddydau
1451
-
Amgylchedd
1001
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
680
-
Llenyddiaeth
645
-
Cerddoriaeth
600
-
Arian a Busnes
550
-
Amaethyddiaeth
487
-
Bwyd
448
-
Chwaraeon
366
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
320
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
277
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
176
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
72
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3