Trowch eich busnes bach yn swydd lawn amser gyda SBARC Ceredigion
Ionawr 29, 2024
Os yw eich adduned blwyddyn newydd yn ymwneud â sefydlu neu ehangu eich busnes, mentro’n llawrydd neu droi eich busnes bach yn swydd lawn amser, yna gallai SBARC Ceredigion fod yr union raglen chi. Gallai’r cwrs wedi ei deilwra – sydd nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer rhaglen 2024 – fod yr hwb sydd ei angen arnoch i fynd â’ch busnes gam ymhellach eleni.
Mae SBARC Ceredigion yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion ac yn tanlinellu'r strategaeth economaidd ar gyfer Ceredigion am y 15 mlynedd nesaf. Mae'r strategaeth yn darparu fframwaith economaidd i gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid newydd.