Taith Merched Prydain yn dychwelyd i Sir Gâr
Mai 12, 2022
Bydd tua 108 o feicwyr yn rasio drwy'r sir i'r llinell derfyn ar ben y Mynydd Du rhwng Llangadog a Brynaman, fel rhan o gymal pump ddydd Gwener, 10 Mehefin.
Bydd y ras yn cychwyn ym Mharc Gwledig Pen-bre am 10.45am a bydd y beicwyr yn mynd drwy Pinged, Carwe, Pontyberem, Horeb, Llansawel, a Llangadog.
Bydd rhannau o'r ffyrdd yn cael eu cau dros dro ar hyd y llwybr 65 milltir o hyd a bydd hyn yn digwydd rhwng 10.45am a 13.50pm.
Bydd y ffyrdd yn ailagor unwaith y bydd y beicwyr wedi mynd trwodd. Bydd y ffordd dros y Mynydd Du ar gau'n llwyr rhwng 5am-5pm.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ITV4 gyda'r rhan fwyaf o'r ffilmio yn cael ei wneud o hofrennydd a chan griwiau camerâu a fydd yn dilyn y ras.
Mae Taith y Merched yn gadael ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn cyd-fynd â diwrnod olaf penwythnos Gŵyl y Banc pedwar diwrnod o hyd yn y DU i ddathlu Jiwbilî Platinwm Brenhines Elizabeth yr II. Bydd y ras yn dod i ben gyda rownd derfynol fawreddog chwe diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin.
Yn flaenorol cynhaliwyd Grand Départ Taith Dynion Prydain ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yno hefyd y gorffennodd Taith y Merched yn 2019.
Hwb economaidd
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis unwaith yn rhagor ar gyfer digwyddiad beicio mor fawr. Yn y gorffennol mae’r digwyddiad wedi rhoi hwb economaidd i’r sector twristiaeth ac wedi rhoi llawer o sylw cadarnhaol i ni yn y cyfryngau.”
Mae rhagor o wybodaeth am Daith y Merched ar gael ar y wefan.
- Popeth5878
- Newyddion 5524
- Addysg 2048
- Hamdden 1841
- Iaith 1569
- Celfyddydau 1403
- Amgylchedd 967
- Gwleidyddiaeth 926
- Iechyd 661
- Llenyddiaeth 641
- Cerddoriaeth 583
- Arian a Busnes 501
- Amaethyddiaeth 433
- Bwyd 403
- Chwaraeon 346
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 289
- Ar-lein 259
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 258
- Eisteddfod yr Urdd 147
- Hyfforddiant / Cyrsiau 49
- Cystadlaethau 46
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3