Sylw i ynni carbon isel yn Ysgol Pentraeth yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru
Rhagfyr 12, 2023
Eglurodd Fiona Parry, swyddog prosiect addysg a hyfforddiant Menter Môn Morlais: “Cawsom groeso cynnes iawn yn Ysgol Pentraeth. Roedden nhw’n awyddus i ddysgu mwy am Morlais a mor frwdfrydig wrth iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau oedden ni wedi eu darparu ar eu cyfer. O roi cynnig ar ein teclyn VR newydd i weld sut mae tyrbin yn gweithio o dan y dŵr ac adeiladu model tyrbin eu hunain – roedd pawb yn awyddus i ddysgu.”
Ychwanegodd Hannah Thomas, swyddog prosiect cyfathrebu: “Mae bob amser yn wych mynd â neges a stori Morlais i ysgolion, ac roedd hyd yn oed yn fwy perthnasol yr wythnos hon wrth i ni nodi Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae ynni’r llanw yn rhan allweddol o sut rydym yn cynllunio sicrwydd ynni i’r dyfodol ac yn lleihau ein ôl troed carbon – mae rhannu hyn gyda’r genhedlaeth nesaf mor bwysig gan mai am eu dyfodol nhw rydyn ni’n sôn.”
Nod Wythnos Hinsawdd Cymru yw annog sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd ac mae’n gyfle i rhanddeiliaid drafod sut y gall Cymru chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â’r heriau yn ymwneud â’r hinsawdd. Mae Morlais yn cael ei ystyried wrth galon yr ymdrechion hyn i leihau carbon a chyrraedd targedau sero net.
Gan ddod â phwyslais ymarferol ar ynni cynaliadwy, rhoddodd yr ymweliad drosolwg o realiti newid hinsawdd a rôl ynni adnewyddadwy i’r disgyblion. Roedd y sesiwn yr wythnos hon yn rhan o gyfres o ymweliadau addysgiadol ac yn rhan o ymrwymiad Menter Môn Morlais i gefnogi cymunedau lleol a datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Wedi’i reoli gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn, Morlais yw’r safle ynni llanw mwyaf gyda chaniatâd yn y DU. Mae’r gwaith adeiladu ar is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd ar Ynys Cybi bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae hefyd wedi sicrhau cyllid gan yr Nuclear Restoration Service (NDA - Awdurdod Datgomisynu Niwclear gynt) a chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn.
Diwedd
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3