Scott Quinnell – ei Gymraeg yn datblygu ar y sgrîn
Mehefin 08, 2023
Yn y gyfres bydd Scott yn mynd i'r mannau rhyfeddaf wrth iddo brofi'r gweithgareddau mwyaf gwallgof ac amrywiol sydd gan Gymru i'w cynnig.
Fe fydd Scott yn ymweld â sba ar gyfer moch; yn dysgu iodlan ac yn cael gwers ar sut mae bod yn berfformiwr drag. Bydd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn ymuno gydag ef ar bob rhaglen.
Mae Scott wedi parhau i ddysgu Cymraeg ers ymddangos ar raglen Iaith ar Daith yn 2020 a'i hyder i'w siarad yn gyhoeddus wedi tyfu, meddai:
"Mae dysgu Cymraeg a chael yr hyder i'w defnyddio wedi agor cymaint o ddrysau i mi yn bersonol. Mae'n wir fod gallu siarad dwy iaith yn dyblu'r cyfleoedd i wneud mwy o bethau amrywiol."
Mae Scott yn hapus ei fod wedi gallu manteisio ar yr hyn ddysgodd ar y rhaglen Iaith ar Daith gan ddatblygu gyrfa i'w hun yn defnyddio'r Gymraeg i gyflwyno cyfres ei hun.
"Dwi yn gwneud camgymeriadau, ond os ti ddim dwyt ti ddim yn datblygu. Os ti ddim yn gwneud camgymeriadau sut wyt ti'n dysgu? Mae'n wir 'mod i wedi blino lot mwy ar ddiwedd diwrnod ffilmio achos mod i'n gwneud tasgau ac yn siarad Cymraeg – mae cael dysgu sgil newydd a dysgu Cymraeg ar yr un pryd i gyd o flaen y camera, wel dyna'r ffordd i wneud e'."
Bydd Scott hefyd yn parhau i dderbyn gwersi Cymraeg gyda'i diwtor iaith, Aran Jones o Say Something in Welsh, a bydd platfformau dysgu Cymraeg S4C yn darparu rhannau o'r gwersi hyn i'w gweld yn ehangach.
Dyma raglen sydd yn rhan o ddarpariaeth S4C i annog siaradwyr newydd ymarfer eu Cymraeg wrth wylio rhaglenni iaith Gymraeg, ac i feithrin hyder i siarad a defnyddio'r iaith.
Mae S4C yn frwd i gefnogi a hyrwyddo cyfleon i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfer pawb fel esbonia Sara Peacock, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg S4C:
"Mae S4C yn falch iawn o allu cefnogi pawb sydd yn ymrwymo i ddysgu Cymraeg, ar bob lefel, felly mae wedi bod yn bleser i ddilyn Scott ar ei daith o fod yn ddechreuwr pur tuag at siaradwr newydd. Mae ei ddyfalbarhad ac agwedd bositif wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Bydd y gyfres newydd hon yn dangos sut gall y sgiliau newydd hyn helpu pawb i wneud y peth pwysicaf oll – siarad ein hiaith yn ein bywydau o ddydd i ddydd."
Er bod Scott wedi ennill mwy na hanner cant o gapiau i Gymru ac wedi chwarae i'r Llewod, mae'n cyfaddef bod dysgu Cymraeg wedi bod ymysg y sialensiau anoddaf iddo fe wynebu:
"Mae chwarae rygbi yn hawdd i fi, wy wedi ei chwarae ar hyd fy mywyd. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn sialens ond fi wedi mwynhau trochi fy hunan yn yr iaith ac wy'n frwd i gario 'mlaen."
Un o hoff ddywediadau Scott yn Gymraeg yw 'man a man' – symbol o'i agwedd gadarnhaol at y Gymraeg.
- Popeth6228
-
Newyddion
5809
-
Addysg
2118
-
Hamdden
1860
-
Iaith
1623
-
Celfyddydau
1448
-
Amgylchedd
999
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
677
-
Llenyddiaeth
645
-
Cerddoriaeth
600
-
Arian a Busnes
545
-
Amaethyddiaeth
481
-
Bwyd
445
-
Chwaraeon
366
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
320
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
272
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
176
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
66
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3